Yn ddiweddar, enillodd Uwch-ddarlithydd TAR Saesneg a Chyfarwyddwr y Rhaglen TAR Uwchradd, Dr Angella Cooze, Wobr Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu.
Mae’r gwobrau hyn a enwebir gan fyfyrwyr yn cydnabod ac yn dathlu addysgu rhagorol ac maent yn uchel iawn eu parch ar draws y Brifysgol.
Derbyniodd panel a oedd yn cynnwys Pennaeth SALT, Cyfarwyddwr Gweithrediadau'r Gyfadran, a nifer o Athrawon o bob rhan o'r brifysgol gyflwyniadau gan fyfyrwyr yn enwebu Angella ar gyfer y wobr.
Dywedodd y myfyrwyr a enwebodd Angella am ansawdd ei haddysgu:
"Angella yw'r darlithydd TAR perffaith gan fod ei haddysgu'n ysbrydoli wrth natur. Mae hi'n trosglwyddo hyn i'w charfan o athrawon, mae ei brwdfrydedd a'i hangerdd dros addysg yn heintus."
"Mae'n cynnwys pob myfyriwr unigol yn ei darlith ac mae'n gwneud i'r grŵp cyfan deimlo fel teulu dysgu mawr.“
"Mae gan Angella ffordd o sicrhau mai hyfforddiant TAR yw’r cwrs MWYAF cyffrous a rhyddhaol y gallech fod yn ei ddilyn.”
Wrth dderbyn yr anrhydedd haeddiannol hon, dywedodd Angella:
"Mae derbyn y wobr hon sy’n seiliedig ar enwebiadau ein myfyrwyr gwych yn anrhydedd go iawn. Rwy'n hynod falch o'n rhaglen a’n myfyrwyr TAR; mae cael fy enwebu ganddynt, wrth iddynt symud ymlaen ar eu teithiau addysgu eu hunain drwy'r rhaglen ac i'r proffesiwn, yn rhoi boddhad mawr i mi. Rwy'n teimlo'n lwcus iawn fy mod wedi bod yn rhan o'u cynnydd ac rwy'n falch iawn o gael cydnabyddiaeth ganddynt drwy’r wobr hon am ragoriaeth mewn addysgu."