Darpariaeth cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol
Mae pwyslais cynyddol ar allu’r Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu gwasanaeth priodol yn y Gymraeg a galw sylweddol a chynyddol yn y maes am Weithwyr Cymdeithasol sy’n medru’r Gymraeg, ac sy’n hyderus i ddelio â chleifion yn Gymraeg.
Mae’r Fframwaith Strategol Olynol ar gyfer Gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru yn ceisio annog mwy o ddarparwyr gwasanaethau i gydnabod bod y defnydd o’r Gymraeg yn fwy na mater o ddewis yn unig, ei fod hefyd yn fater o angen. Mae’n arbennig o bwysig i nifer o bobl agored i niwed a’u teuluoedd gael mynediad at wasanaethau yn eu mamiaith.
Yr hyn sy’n ganolog i’r holl ddadleuon dros gryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg mewn iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol yw diogelwch, urddas a pharch i gleifion. Mae gofal ac iaith yn mynd law yn llaw a gellir peryglu ansawdd y gofal drwy fethu â chyfathrebu â phobl yn eu hiaith gyntaf. Er mwyn i chi deimlo’n hyderus i ddefnyddio’r iaith Gymraeg wrth weithio, mae’n syniad da i chi astudio rhan o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg fel eich bod chi’n parhau i ymarfer ac yn gyfarwydd gyda geirfa ac ymadroddion y maes er mwyn gallu defnyddio’r Gymraeg gyda chleifion.
Caiff pob myfyriwr sy'n astudio BSc Gwaith Cymdeithasol:
- Dewis dilyn modiwlau cyfrwng Cymraeg
- Dewis gweithio gydag asesydd ymarfer sy'n siarad Cymraeg (ar gyfer lleoliadau)
- Cael Tiwtor Personol sy'n siarad Cymraeg (lle’n bosib)
- Cyflwyno aseiniadau yn y Gymraeg
- Lawrlwytho ein ap am ddim : Gofalu Trwy'r Gymraeg
- Derbyn pob llawlyfr (gan gynnwys y llawlyfr ar gyfer lleoliadau a'r ffurflenni portffolio) yn Gymraeg, ac mae staff yn gallu sicrhau bod y marciwr cyntaf yn medru'r Gymraeg.
Ariannu
- Cynigir Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gwerth £1,500, i fyfyrwyr sy'n astudio Gwaith Cymdeithasol.
- Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau cyfrwng Cymraeg Academi Hywel Teifi ar gael i fyfyrwyr Nyrsio, Bydwreigiaeth, Gwaith Cymdeithasol a Seicoleg (Mae Amodau ar y cynllun hwn)
Modiwlau Gwaith Cymdeithasol sydd ar gael yn y Gymraeg
Blwyddyn 1 (Lefel 4)
CYFLWYNIAD I WAITH CYMDEITHASOL (ASQ101)
20 CREDYD, SEMESTR 1
Mae’r modiwl hwn yn ystyried lle gwaith cymdeithasol cyfoes o fewn cyd-destunau hanesyddol a chymharol. Rhoddir sylw penodol i’r cyd-destun Cymreig a’r cydberthnasau sydd rhwng gwasanaethau cymdeithasol a darparwyr gofal neu iechyd eraill yn y sectorau statudol a gwirfoddol.
CYFLWYNIAD I GYFRAITH GWAITH CYMDEITHASOL (ASQ105)
10 CREDYD, SEMESTR 2
Ar lefel gyflwyniadol, mae’r modiwl hwn yn darparu trosolwg o’r prosesau cyfreithiol a’r fframweithiau sydd yn llywio ac yn hysbysbu gwaith gweithwyr cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig, ac yn fwy penodol, yng Nghymru.
GWAITH CYMDEITHASOL AR LEOLIAD GWAITH (SW100)
10 CREDYD, SEMESTR 2
Ar lefel gyflwyniadol, bydd y modiwl hwn yn cyflwyno’r sgiliau craidd sydd ei angen er mwyn gweithio mewn cyd-destun ymarferol ym maes gwaith cymdeithasol heddiw. Rhoddir sylw penodol i sgiliau cyfathrebu, sgiliau rhyngbersonol a chyflwynir amrywiol ddulliau a modelau o asesu o fewn cyd-destunau ymarfer amrywiol, diogelwch personol mewn gwaith cymdeithasol a phwysigrwydd adfyfyrio’n feirniadol wrth ymarfer.
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
GWAITH CYMDEITHASOL AR LEOLIAD GWAITH – RHAN 1 (SW200)
20 CREDYD, SEMESTR 2
Bydd y modiwl hwn yn adeiladu ar y sgiliau a gyflwynwyd yn Lefel 4 tra byddwch ar leoliad gwaith. Rhoddir sylw penodol i’r cyd-destun Cymraeg a Chymreig.
GWAITH CYMDEITHASOL AR LEOLIAD GWAITH – RHAN 2 (SW200)
40 CREDYD, SEMESTR 2
Bydd y modiwl hwn yn adeiladu ar y sgiliau a gyflwynwyd yn Lefel 4 ac yn ystod y semestr cyntaf, a bydd y myfyrwyr ar leoliad gwaith. Rhoddir sylw penodol i’r cyd-destun Cymraeg a Chymreig.
MATERION CYFREITHIOL GWAITH CYMDETIHASOL A GWAITH GOFAL (ASQ204)
20 CREDYD, SEMESTR 2
Gwna’r modiwl hwn ystyried fframwaith cyfreithiol ymarferwyr yn y maes, a chyd-effaith strwythurau cymdeithasol, gwerthoedd, cydraddoldeb a hawliau dynol. Ystyrir y brif themâu, megis cyfraithplant ac oedolion, iechyd meddwl a gwaith gofal ynghyd â materion lleiafrifol. Rhoddir sylw penodol i’r cyd-destun cyfreithiol yng Ngymru gan gynnwys cyfraith yr iaith Gymraeg.
Blwyddyn 3 (Lefel 6)
GWAITH CYMDEITHASOL AR LEOLIAD GWAITH – RHAN 1 (SW200)
20 CREDYD, SEMESTR 2
Yn eich blwyddyn olaf o astudio, bydd y modiwl hwn yn adeiladu ar y sgiliau a gyflwynwyd i chi dros y ddwy flynedd ddiwethaf tra byddwch ar leoliad gwaith. Rhoddir sylw penodol i’r cyd-destun Cymraeg a Chymreig.
GWAITH CYMDEITHASOL AR LEOLIAD GWAITH – RHAN 2
40 CREDYD, SEMESTR 2
Mae’r modiwl hwn yn barhad o’r hyn a gyflwynwyd yn y semester cyntaf. Yn eich blwyddyn olaf o astudio, bydd y modiwl hwn yn adeiladu ar y sgiliau a gyflwynwyd i chi dros y ddwy flynedd ddiwethaf tra byddwch ar leoliad gwaith. Rhoddir sylw penodol i’r cyd-destun Cymraeg a Chymreig.
Manylion pellach
Darlithydd Gwaith Cymdeithasol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol