Canllaw y Sefydliad dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE)
Y Prosiect
Mae canllawiau NICE yn gwneud argymhellion yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer iechyd a gofal yng Nghymru a Lloegr. Maent yn edrych ar ffyrdd o hyrwyddo ac amddiffyn iechyd da, atal salwch, a gwella ansawdd gofal a gwasanaethau o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Cyhoeddwyd canllaw clinigol NICE ar ganser etifeddol y fron (CG164) yn 2013. Caiff canllawiau eu diweddaru’n rheolaidd pan ddaw triniaethau newydd ar gael, neu pan allai tystiolaeth newydd olygu newidiadau i ymarfer. Diweddarwyd y canllawiau ar ganser etifeddol y fron ym mis Awst 2015.
Gweithiodd y Ganolfan gyda’r Ganolfan Genedlaethol Cydweithredu dros Ganser a NICE i ddarparu arbenigedd economeg iechyd, adolygiadau, modelu a dadansoddi i gefnogi canllaw NICE.
Y Gwerthusiad
Darparodd y Ganolfan y dystiolaeth economeg iechyd oedd ei hangen i seilio argymhellion ar gyfer profi, sgrinio a gofal pobl y mae hanes teuluol o ganser y fron yn effeithio arnynt. Cynhaliwyd adolygiadau systematig trylwyr o bynciau gwahanol sy’n ymwneud â sgrinio, diagnosis a rheoli cleifion sydd â hanes etifeddol o ganser y fron er mwyn llywio argymhellion. Datblygwyd model dadansoddi penderfyniadau cymhleth i ymchwilio i gost-effeithiolrwydd profion genetig ar gyfer cleifion sydd â hanes etifeddol o ganser y fron, cleifion sydd â hanes personol ac sydd heb hanes personol, a chleifion sydd heb berthynas byw, i gael profion pan fyddant yn cyrraedd oedrannau gwahanol. At hynny, addasodd y Ganolfan fodel cyfredol sy’n ymchwilio i gost-effeithiolrwydd mamograffeg a sgrinio MRI ar gyfer y boblogaeth dan sylw, a lywiodd argymhellion ar amlder a dull sgrinio ar gyfer pobl mewn perygl.
Beth oedd canlyniad y prosiect hwn?
Mae’r gwaith hwn wedi arwain at argymhellion a weithredwyd ar draws GIG y DU. Bydd gan filoedd o bobl fynediad i ofal ataliol gwell yn seiliedig ar ddatrysiadau costeffeithiol i wella canlyniadau iechyd, gan arwain at newidiadau sylfaenol, ar unwaith ac uniongyrchol i ymarfer clinigol. Bu asesiad effaith manwl o’r ymchwil hon er budd cleifion ac mae’n llywio dadleuon cyhoeddus yn y DU ac yn rhyngwladol.
Cadarnhaodd Gweinidog Iechyd yr Alban y bwriad i ymestyn profion genetig i’r argymhelliad a ategir yn uniongyrchol gan ein hymchwil a gynhwysir yng nghanllaw NICE, a disgwylir i Gymru a’r Alban dilyn. Mae ein cyfraniad o ran ymchwil hefyd wedi sicrhau bod y gofal a ddarperir yn y DU yn cyfateb i’r gofal mewn poblogaethau o gleifion rhyngwladol tebyg, gan ddarparu cyflawniad y gellir ei ddangos wrth leihau amrywiadau rhyngwladol o ran triniaeth a gofal, ac yn bennaf, canlyniadau cleifion.