Yn yr hinsawdd economaidd bresennol a gyda phwysau cynyddol ar adnoddau prin, mae darparu tystiolaeth yn seiliedig ar werth am arian yn hanfodol i gefnogi comisiynwyr gwasanaethau a gwneuthurwyr polisïau gyda’r penderfyniadau anodd y mae’n rhaid eu gwneud.
Y Prosiect
Cyfleuster triniaeth symudol arbenigol yng Nghanol Dinas Abertawe yw Pwynt Help+ sy’n darparu gofal i bobl agored i niwed sydd angen triniaeth o ganlyniad i ddamweiniau, anafiadau neu ymosodiadau treisgar; yn aml o ganlyniad i yfed gormod o alcohol. Nod y prosiect yw cyfeirio pobl sy’n feddw i ffwrdd o ofal swyddogion yr heddlu a lleihau’r baich ar Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys y GIG.
Comisiynwyd y Ganolfan gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru a Heddlu De Cymru i ddatblygu gwerthusiad o Pwynt Help+ i bennu a oedd y gwasanaeth yn werth da am arian fel rhan o raglen hirdymor fel rhan o Bartneriaeth Abertawe Mwy Diogel.
Y Gwerthusiad
Datblygwyd model costio i gymharu costau darparu gwasanaethau Pwynt Help+ â chymharydd ‘dim gwasanaeth’ damcaniaethol. Cynhaliwyd ymarfer micro-gostio i ddarparu amcangyfrif manwl o gostau rhedeg blynyddol ar gyfer y gwasanaeth Pwynt Help+. Ar gyfer y cymharydd ‘dim gwasanaeth’, nododd yr amcangyfrifon cyhoeddedig y byddai 80% o dderbyniadau i’r gwasanaeth Pwynt Help+ fel arfer wedi golygu ambiwlans ac ymweliad ag adran achosion brys.
Yr hyn a ganfuwyd
Roedd canfyddiadau’r gwerthusiad yn gadarnhaol, gan ddangos arbedion cost sylweddol o ganlyniad i lai o bobl yn mynychu adrannau achosion brys dros gyfnod o 12 mis. Yn absenoldeb cymharydd cryf, profodd y Ganolfan y gwerthusiad gyda dadansoddiadau sensitifrwydd achos gorau a gwaethaf, a dadansoddiadau trothwy i bennu faint y byddai’n rhaid i’r paramedrau cost newid i gynhyrchu arbedion cost o £0. I’r perwyl hwn, roedd y canlyniadau a ddarparwyd yn ddefnyddiol ar gyfer penderfyniadau ar gomisiynu’r gwasanaeth Pwynt Help+ yn y dyfodol.