Khan et al 2013
Khan et al 2013: fe wnaeth yr astudiaeth yma edrych ar sut y mae pryder ac iselder yn effeithio ar lwyddiant hyfforddiant cyhyrol llawr y pelfis. Mae cleifion sy’n isel eu hysbryd ac yn bryderus yn dueddol o beidio â mynychu cymaint o apwyntiadau ffisiotherapi, a, phan roeddent yn mynychu, nid oedd eu canlyniadau mor dda â hynny. Awgrymwyd y dylai iechyd seicolegol claf PFMT posib ei gymryd i ystyriaeth wrth bennu eu hymyrraeth mewn ffisiotherapi.
Osborne at al 2017
Osborne at al 2017 (a): Archwiliwyd gwerthoedd merched a oedd yn mynychu sesiynau hyfforddiant cyhyrol y pelfis. Roedd gwerthoedd iechyd, gwaith/gwerthoedd llwyddiant, a gwerthoedd ysbrydol a ddisgwylir yn y sesiynau PFMT. Roedd hwyluso cleifion i ffocysu ar eu gwerthoedd iechyd yn enwedig yn gallu gwella presenoldeb mewn sesiynau PFMT a hefyd boddhad cleifion o’r sesiynau ffisiotherapi yma.
Osborne at al 2017 (b)
Osborne at al 2017 (b): Edrychodd yr astudiaeth yma ar sut wnaeth ddarparu cleifion sy’n mynychu sesiynau PFMT gyda chefnogaeth ysgogol effeithio ar gwblhau eu cwrs. Canfuwyd, o'i gymharu â'r cleifion hynny na chawsant gefnogaeth ysgogol (wnaeth archwilio eu gwerthoedd yn ymwneud ag iechyd), bod y rheiny wnaeth dderbyn cefnogaeth seicolegol yn ystod eu cwrs ffisiotherapi dwywaith yn fwy tebygol o orffen eu triniaeth. Awgryma hyn y gallai rhai cleifion, yn enwedig y rheiny gyda phryder/iselder ysgafn i ganolig, elwa o dderbyn cefnogaeth ysgogol ynghyd â’u triniaeth ffisiotherapi.
Osborne et al 2017 (c)
Osborne et al 2017 (c): Disgrifia’r ymchwil hon hap-dreial rheoledig lle cafodd cleifion ar restr aros PFMT alwad teleffon byr (yn ogystal â derbyn eu llythyr hapwyntiad) i drafod agweddau amrywiol o’u hapwyntiadau PFMT sydd ar ddod. Roedd y cleifion hynny wnaeth dderbyn galwad cefnogaeth teleffon gyda chyfraddau presenoldeb sylweddol uwch yn eu sesiynau ffisiotherapi na’r cleifion hynny na wnaeth dderbyn galwad. Y rheiny a gafodd y budd mwyaf o’r alwad teleffon yn enwedig oedd cleifion hŷn, yn deillio o ardaloedd llai economaidd ac nad oeddent wedi bod ar y rhestr aros am amser hir.
Reed et al 2018
Wedi'i anelu at ffisiotherapyddion, ac yn trafod manteision cymryd llesiant ffisiolegol eu cleifion i ystyriaeth.
Reed et al 2020:
Reed et al 2020: Arolwg o'r Ffisiotherapyddion Pelfis, Obstetreg a Gynaecolegol yn y DU i bennu'r darlun cenedlaethol o wasanaethau PFMT. Awgrymodd yr arolwg bod cyfraddau mae cyfraddau cydymffurfio yn sylweddol well pan fydd mynediad at gymorth seicolegol ar gael ar gyfer y gwasanaeth ffisiotherapi, ond dim ond 50% o wasanaethau oedd â mynediad at gymorth seicolegol yn eu tîm amlddisgyblaeth.