Helpu pobl hŷn i wneud penderfyniadau ar dai a bywyd yn hwyrach
Nid yw pawb am yr un pethau, ac wrth i ni heneiddio, dylem gael dewisiadau, cael y cyfle, i benderfynu ble yr hoffem fyw.
Mae gan Gymru boblogaeth gynyddol hŷn ac amrywiol, gyda mwy na 65 yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae heriau allweddol yn ymwneud ag asesiadau anghenion tai, yr ystod o opsiynau tai sydd ar gael i bobl hŷn, a'r angen am system gynllunio well. Yn ogystal, mae angen i bobl hŷn gael mynediad at wybodaeth, cyngor ar opsiynau tai a chyllid, ynghyd â chymorth ymarferol a fforddiadwy i benderfynu a hoffent 'aros ble y maent' neu 'symud ymlaen'.
Mae Sarah Hillcoat Nalletamby, yn ymchwilydd poblogaeth sy'n heneiddio yn y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia, ac mae’n aelod o Grŵp Arbenigol Llywodraeth Cymru ar Ddarparu tai ar gyfer Poblogaeth sy’n Heneiddio wedi bod yn gweithio i dynnu sylw at anghenion tai yn hwyrach mewn bywyd yn y DU, ac yn Ffrainc. Cliciwch yma am adroddiad 2017 ar yr hyn y gall poblogaeth sy'n heneiddio olygu ar gyfer tai yng Nghymru ac yma am adroddiad 2018 ar gyfer Diogelwch Trydanol yn Gyntaf ar bobl hŷn yng Nghymru sydd â mwy o berygl o dân trydanol na'r boblogaeth gyffredinol.