Adeilad Grove yw cartref gwreiddiol yr Ysgol Feddygaeth, ac ynddo mae amrywiaeth o gyfleusterau addysgu a chyfleusterau i fyfyrwyr. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae rhaglen i addasu ac ailwampio'r adeilad wedi gwella'r amgylchedd dysgu i'n myfyrwyr a'n staff.
![Tu allan i Adeilad Grove](/cy/meddygaeth-iechyd-gwyddor-bywyd/cyfleusterau/grove/Grove-Header-image.jpg)
Labordy Anatomeg
![Modelau anatomi](/cy/meddygaeth-iechyd-gwyddor-bywyd/cyfleusterau/grove/Anatomy-Lab.jpg)
Caiff ein Labordy Anatomeg ei ddefnyddio gan ein Myfyrwyr Meddygaeth, ein Cydymeithion Meddygol a'n Myfyrwyr Gwyddorau Meddygol Cymhwysol. Mae'r Labordy'n lle perffaith i addysgu ac i ddysgu'n annibynnol. Hefyd, mae model cyfrifiadurol 3D ar gael fel y gall myfyrwyr archwilio Anatomeg Ddynol yn fanwl.
Labordy Anatomeg Glinigol
![Addysgu grwpiau bach](/cy/meddygaeth-iechyd-gwyddor-bywyd/cyfleusterau/grove/Clinical-Anatomy-Lab.jpg)
Mae ein Labordy Anatomeg Glinigol yn cynnig cyfle i fyfyrwyr Meddygaeth a Chydymeithion Meddygol gael eu haddysgu gan arbenigwyr yn eu maes am ochr glinigol anatomeg, gan eu helpu i ddeall yr hyn y dylent fod yn chwilio amdano mewn lleoliad clinigol. Mae'r Labordy'n galluogi myfyrwyr i gael eu haddysgu mewn grwpiau llai ac archwilio themâu a syniadau ymhellach.
Ystafell Gyfrifiaduron
![Myfyrwyr ar y cyfrifiadur gyda'a athro](/cy/meddygaeth-iechyd-gwyddor-bywyd/cyfleusterau/grove/Computer-Suite.jpg)
Mae ein Hystafell Gyfrifiaduron ar gael i'n holl fyfyrwyr ei defnyddio rhwng darlithoedd i gwblhau eu haseiniadau ac ymchwilio mewn amgylchedd gwaith tawel. Yn aml, gwneir llawer o ddefnydd o'r ystafell yn ystod cyfnodau arholiadau a chyn terfynau amser aseiniadau. Mae'r ystafell yn lle gwych i fyfyrwyr ddod ynghyd wrth weithio ar brosiectau grŵp.
Ystafell Dulliau Clinigol Integredig
![Addysgu grwpiau bach](/cy/meddygaeth-iechyd-gwyddor-bywyd/cyfleusterau/grove/ICM.jpg)
Caiff yr Ystafell Dulliau Clinigol Integredig ei defnyddio gan ein Cydymeithion Meddygol a'n Myfyrwyr Meddygaeth. Mae cynllun y gofod addysgu hwn yn debyg i ward mewn ysbyty, sy'n galluogi myfyrwyr i ddysgu mwy am ymarfer clinigol ac ymgyfarwyddo â lleoliadau clinigol.