Ein partneriaethau a chydweithrediadau gwyddor bywyd
Trwy weithio gyda'n Partneriaid Rhanbarthol trwy brosiectau mawr rydym wedi sefydlu Abertawe fel hyb allweddol ar gyfer Gwyddorau Bywyd yn y Deyrnas Unedig, ac yn ne Cymru. Rydym yn cydweithredu gydag ystod o bartneriaid ar draws rhanbarth de Cymru a gorllewin Cymru gan fynd â heriau clinigol o'r fainc ymchwil i ochr y gwely ac yn ôl gan ymgysylltu ar lefel ryngddisgyblaethol i hyrwyddo iechyd, cyfoeth a lles ein dinas, ein rhanbarth a'r tu hwnt.
Mae ein Partneriaid Rhanbarthol yn yr Ysgol Feddygaeth yn amrywio o Lywodraethau Lleol a Llywodraeth Genedlaethol, Byrddau Iechyd Lleol a'r sector preifat.
Gweithio gydag ARCH a Bargen Ddinesig Dinas-Ranbarth Bae Abertawe
Rydym yn falch o fod yn rhan o Fargen Ddinesig Dinas- ranbarth Bae Abertawe gwerth £1.3 biliwn. Gan weithio trwy bartneriaeth Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd (ARCH) gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda rydym yn gweithio i osod Dinas-ranbarth Bae Abertawe ar flaen y gad o ran arloesed gwyddor bywyd a chael ei adnabod fel y cyrchfan i'w ddewis ar gyfer buddsoddi ac arloesed byd-eang ym maes gwyddorau bywyd.
Gweithio gyda'n Byrddau Iechyd Lleol
Rydym yn gweithio gyda'n Byrddau Iechyd lleol ar draws ein gweithgareddau dysgu ac addysgu, ymchwil a menter ac arloesi i sicrhau ein bod yn cael effaith ar ofal iechyd, nawr ac yn y dyfodol.
Gweithio gydag AAGIC
Rydym yn gweithio gydag AaGIC i sicrhau bod y gweithlu iechyd a gofal yn diwallu anghenion y GIG ac anghenion pobl Cymru. Trwy weithio'n agos gyda'n gilydd gallwn sicrhau bod Cymru'n datblygu arweinwyr gofal iechyd heddiw ac yfory, yn darparu cyfleoedd i'r gweithlu iechyd a gofal ddatblygu sgiliau newydd a helpu i gefnogi gweithlu'r gweithwyr proffesiynol a'r proffesiwn datblygu sefydliadol yng Nghymru.