Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn eistedd ochr yn ochr â Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau fel yr unig Awdurdod Iechyd Arbennig yn GIG Cymru. Mae gan AaGIC rôl arweiniol ym maes addysg, hyfforddiant, datblygu a ffurfio'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru, gan gefnogi gofal o safon uchel ar gyfer pobl Cymru.
Sefydlwyd ym mis Hydref 2018, mae AaGIC yn dod â thri sefydliad iechyd allweddol ynghyd - Deoniaeth Cymru; Gwasanaethau Addysgu a Datblygu Gweithlu GIG Cymru (WEDS) a Chanolfan Addysg Fferylliaeth Broffesiynol Cymru (WCPPE).
Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn gweithio gydag AaGIC i sicrhau bod y gweithlu iechyd a gofal yn diwallu anghenion y GIG ac anghenion pobl Cymru. Trwy weithio'n agos gall AaGIC a'r Ysgol Feddygaeth sicrhau bod Cymru'n datblygu arweinwyr gofal iechyd heddiw ac yfory, yn darparu cyfleoedd i'r gweithlu iechyd a gofal ddatblygu sgiliau newydd a helpu i gefnogi gweithlu'r gweithwyr proffesiynol a'r proffesiwn datblygu sefydliadol yng Nghymru.
Fel rhan o'n partneriaeth gydweithredol, lansiwyd Cytundeb Hyfforddwr Meddygaeth Cymru Gyfan ar gyfer Gofal Eilaidd ac Addysg Israddedig ym mis Hydref 2018. Mae hyn yn cynrychioli anterth rhaglen helaeth o waith a chydweithredu rhwng Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ac Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ynghyd â Phrifysgol Caerdydd.
Mae'r Cytundeb yn diffinio rôl, cyfrifoldebau a hawliau hyfforddwyr unigol, AaGIC a'r Ysgolion Meddygaeth, a Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd ar draws GIG Cymru, yn ogystal â mecanweithiau i gefnogi'r gwaith o ddarparu addysg a hyfforddiant meddygol o safon uchel. Gan gynnwys pob un o rolau'r hyfforddwyr ym maes gofal eilaidd ac addysg israddedig, mae'n hanfodol er mwyn bodloni cyfrifoldebau y Trefnwyr Addysg i'r Cyngor Meddygol Cyffredinol trwy roi cydnabyddiaeth ffurfiol i statws hyfforddwyr yng Nghymru a chyflawni safonau'r rheoleiddwyr ar gyfer addysg a hyfforddiant meddygol. Mae cyflwyno'r Cytundeb ar draws Cymru trwy system cytundeb ar-lein yn sicrhau dull effeithlon a chyson ar gyfer pob un sy'n llofnodi'r Cytundeb a phob rhanddeiliad.
Trwy arwyddo'r Cytundeb mae partïon yn dangos eu hymrwymiad i rolau hyfforddwyr pwysig a'r gwaith o ddarparu goruchwyliaeth o safon uchel ar gyfer hyfforddeion, lleoliadau gwaith a modiwlau, yn ogystal ag amgylchedd dysgu cefnogol i fyfyrwyr a hyfforddeion, gan yn y pendraw arwain at wella diogelwch cleifion a lefel uwch o ofal cleifion.
Mae'r Cytundeb yn hanfodol ar gyfer gwella ansawdd addysg feddygol israddedig a hyfforddiant meddygol ôl-raddedig yng Nghymru trwy godi proffil ac amlygrwydd yr hyfforddwr a chydnabyddiaeth o'r rôl hon o ran cefnogi myfyrwyr a goruchwylio hyfforddeion, yn ogystal â hyrwyddo rhagoriaeth mewn addysg a hyfforddiant. Bydd cyflawni'r Cytundeb yn cyfrannu at gysondeb a thryloywder darparu addysg a hyfforddiant ar draws Byrddau ac Ymddiriedolaethau y GIG yng Nghymru, a gydlynir ac a reolir gan dri Threfnydd Addysg. Mae felly'n gwneud cyfraniad pwysig i ymgyrch 'Hyfforddi, Gweithio, Byw' Llywodraeth Cymru a gwireddu argymhellion Adolygiad Seneddol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, gan wneud Cymru'n lle gwych i hyfforddi ac i weithio.
Cymru yw'r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i fabwysiadu'r dull sengl cytûn hwn i gydnabod hyfforddwyr, gan ddangos ymrwymiad AaGIC a'r Ysgol Feddygaeth i gydgefnogi unigolion ar draws continwwm addysg a hyfforddiant meddygol yng Nghymru.
Bydd y camau nesaf yn cynnwys sicrhau bod AaGIC yn cyflawni ei rôl fel y diffinnir yn y Cytundeb, yn ogystal â sicrhau bod Byrddau Iechyd GIG Cymru a hyfforddwyr unigol yn diwallu eu cyfrifoldebau. Yn sail i hyn fydd hyrwyddo amgylchedd lle y caiff hyfforddwyr sy'n ymrwymedig i ddarpariaeth o safon uchel yng Nghymru eu cefnogi a'u datblygu'n llawn a bydd yn sail i gymuned o ymarfer sy’n cynnwys hyfforddwyr ledled Cymru sy'n rhannu diddordeb mewn rhagoriaeth hyfforddiant.