Beth yw Meddygaeth Genomic?

Mae meddygaeth genomig yn gangen arbenigol o wyddoniaeth feddygol sy'n canolbwyntio ar ddefnyddio gwybodaeth o genom unigolyn (set gyflawn o DNA) i arwain penderfyniadau gofal iechyd. Mae'n cynnwys dadansoddi a dehongli'r cod genetig i ddeall tueddiad person i glefydau, ymateb i driniaethau, a chyflyrau genetig posibl. Trwy integreiddio technolegau megis dilyniannu DNA a biowybodeg, mae meddygaeth genomig yn galluogi ymagweddau wedi'u personoli a'u targedu at ofal iechyd, gan chwyldroi sut rydym yn gwneud diagnosis, yn trin ac yn atal clefydau.

Bydd astudio Meddygaeth Genomig gyda ni yn rhoi dealltwriaeth a gwerthfawrogiad i chi o'r gwahanol agweddau sy'n ofynnol mewn Meddygaeth Genomig gan eich galluogi i ddehongli data genomig, deall technegau genetig a genomig mewn lleoliad clinigol, dulliau biowybodeg sy'n ofynnol ar gyfer dadansoddi data genomig. Bydd hefyd yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen i wella'r dull y darperir gwasanaethau i gleifion.

Ein Straeon myfyrwyr

Charlotte Davies
Llun Charlotte Davies

"Y prif reswm dewisais i astudio fy ngradd(au) ym Mhrifysgol Abertawe oedd oherwydd ei bod hi wedi'i henwi fel un o'r ysgolion meddygaeth gorau yn y DU. Dewisais i astudio fy ngradd Meistr mewn Meddygaeth Genomig oherwydd fy mod i'n credu ei fod yn faes cyffrous sy'n datblygu gyda photensial enfawr i ddarparu atebion therapiwtig a diagnostig arloesol i gleifion â chlefydau cymhleth lle nad oes llawer o driniaethau effeithiol. Drwy gydol y radd, roeddwn i’n gallu datblygu fy ngwybodaeth ym maes meddygaeth genomig a hefyd, datblygais i ddealltwriaeth o sut i'w defnyddio ym maes meddygaeth ac ymarfer proffesiynol. Rhai o'r modiwlau gwnes i eu mwynhau'n fawr iawn oedd Biowybodeg ar gyfer dadansoddi Genomau, Ffarmacogenomeg, Genomeg Canser a Genomeg Clefydau Etifeddol Cyffredin a Phrin. Roedd y cwrs Meddygaeth Genomig yn hyblyg iawn ac roedd yn caniatáu i mi weithio’n rhan-amser, fel gwirfoddolwr, yn ogystal â chael profiad gwaith ym maes meddygaeth, ochr yn ochr ag astudio. Cefais hefyd y pleser o gwrdd â nifer o unigolion brwdfrydig ac angerddol a chael fy addysgu ganddynt, gan gynnwys clinigwyr , gwyddonwyr, addysgwyr iechyd cyhoeddus ac eraill. Wrth ddatblygu fy sgiliau a'm gwybodaeth ym maes genomeg, mae wedi fy mharatoi ar gyfer fy astudiaethau presennol mewn Meddygaeth i Raddedigion yma yn Abertawe a'm gyrfa yn y dyfodol fel meddyg yn y GIG."

Darganfod my am stori myfyriwr Charlotte

Nadia-Marie Heather Gabriela

Sut Mae Genomeg yn Gweithio?

Gelwir set gyflawn o DNA organebau, tua 3 biliwn o barau o fasau DNA mewn bodau dynol, yn genom. Genomeg yw'r astudiaeth o enynnau person, gan gynnwys rhyngweithiadau'r genynnau hynny â'i gilydd ac y mae'r amgylchedd yn dylanwadu arnynt.

Mae genomeg yn aml yn cael ei ddisgrifio fel y glasbrint ar gyfer bywyd, mae'n dylanwadu ar sut rydyn ni'n gweithredu, yn byw ac yn ein gwahaniaethu oddi wrth ein gilydd, gan ein gwneud ni pwy ydyn ni. Mae genomeg yn gweithio fel peiriant wedi'i diwnio'n fanwl yn ein corff i sicrhau ein bod yn gallu gweithredu, a byw.

Researcher with pippet

AM WYBOD MWY?

Mae gennym ni gymaint mwy rydyn ni eisiau ei rannu gyda chi, beth am archwilio ein tudalen cwrs Meddygaeth Genomig neu archebu lle ar ein diwrnod agored nesaf.