Fel myfyriwr yn Abertawe, cewch gyfle i archwilio rhai o gyfrinachau llai adnabyddus y ddinas! Er bod ein dinas yn fach, mae'n gartref i nifer o drysorau cudd gwych. Dyma saith trysor cudd gorau'r Ysgol Feddygaeth…
1. TRAETH CRAWLEY
Dechreuwn ein rhestr gydag un o draethau llai adnabyddus penrhyn Gŵyr. I gyrraedd y traeth tywod bach hwn, sydd nesaf at draeth mwy Bae Oxwich, rhaid cerdded ar hyd llwybr drwy goetir. Mae'n werth mentro o'r llwybrau mwy poblogaidd am gyfle i edmygu harddwch arfordir Gŵyr o gilfan heulog tawel.
2. MARCHNADOEDD Y MARINA, UPLANDS A'R MWMBWLS
Yn gwerthu cynnyrch ffres lleol a Chymreig, mae marchnadoedd misol yn cael eu cynnal yn y Marina, Uplands a'r Mwmbwls. Lle gwych i gael blas ar fwyd Cymreig lleol, crefftau a rhoddion hyfryd ac archwilio'r gymdogaeth.
3. PARC CENEDLAETHOL BANNAU BRYCHEINIOG
Ychydig yn bellach o'r ddinas, ond mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn werth y daith yn bendant. Ar ôl gyrru am ychydig dros awr, byddwch yn cyrraedd un o'r tirweddau mwyaf gwefreiddiol yng Nghymru. O ogofeydd naturiol a theithiau cerdded hyfryd (mae'n werth ymweld â Sgwd Henrhyd i weld yr ogof ystlumod o'r ffilm The Dark Knight Rises), i barciau anturiaeth a chwaraeon adrenalin uchel, mae gan Fannau Brycheiniog rywbeth i bawb.
4. TEITHIO’R AFON AR Y COPPER JACK
Ewch am daith hanesyddol ar hyd afon Tawe ar y Copper Jack a dysgu am hanes diwydiannol Abertawe. Gallwch arsylwi ar fywyd gwyllt, dysgu am hanes Abertawe pan oedd yn ganolfan y diwydiant copr byd-eang a mwynhau'r awyrgylch hamddenol.
5. SIOP GOFFI BRYNMILL
Un o ffefrynnau'r myfyrwyr! Bydd taith gerdded fer o Singleton Campws drwy'r parc yn mynd â chi i Siop Goffi Brynmill. Mae'r siop goffi gyfeillgar hon yn cynnig rhywbeth at ddant pob myfyriwr, gan gynnwys dewis anferth o goffi, digon o opsiynau feganaidd (gan gynnwys teisennau ffres blasus) a chrempogau Americanaidd ar ddydd Sadwrn, felly pwy na fyddai'n dwlu ar y lle hwn?!