myfyrwyr mewn darlith

Beth os yw’r graddau yr ydych chi’n eu derbyn yn wahanol i’r rhai rhagfynegir ar

Mae graddau a rhagfynegid yn rhan allweddol o wneud cais i brifysgol ond beth sy’n digwydd os yw eich graddau yn wahanol?

Yn ôl UCAS mae yna nifer o heriau sy’n wynebu athrawon ac ymgynghorwyr wrth ragfynegi graddau - ond mae yna hefyd egwyddorion y mae’n rhaid dilyn.

Serch hyn, wrth i raddau cael ei rhagfynegi ymhell o flaen llaw nid oes modd iddynt ystyried pob digwyddiad posib. Gall newidiadau dof yn y cartref neu yn yr ysgol a effeithiodd ar ddysgu - megis problemau ariannol neu golled aelod o’r teulu. Ar y llaw arall, mae’n bosib bod athro newydd wedi sbarduno diddordeb newydd neu y gallech chi wedi sicrhau mwy amser i adolygu.

 

Os yw eich canlyniadau yn is nag oeddech chi’n disgwyl

Paid â phoeni! Os yw eich canlyniadau yn is nag oeddech chi’n disgwyl, paid â cholli gobaith. Byddwn yn ystyried eich canlyniadau yng ngoleuni canlyniadau pob un o ymgeiswyr eleni ac yn ystyried y lleoedd sydd ar gael ar y cwrs. Byddwn hefyd yn mynd nôl trwy eich cais gwreiddiol a gallwn drafod unrhyw beth a effeithiodd eich arholiadau.

Mae’n bosib y byddai cyrsiau eraill yn fwy addas are eich cyfer chi- er enghraifft, os oeddech wedi gwneud yn well yn Gemeg na Bioleg, efallai y byddai Biocemeg neu Ffarmacoleg Meddygol yn fwy addas i chi na Geneteg Feddygol.

Mae hefyd gennym raglen arbennig Gwyddorau Meddygol Cymhwysol gyda blwyddyn Sylfaen a fydd yn darparu chi gyda’r wybodaeth a sgiliau allweddol i symud ymlaen at radd BSc mewn blwyddyn.

Archwiliwch ein graddau

Os ydych chi’n rhagori ar ddisgwyliadau

Mae pawb wedi clywed am glirio ond beth am addasu? Addasu yw’r enw ar gyfer y proses o uwchraddio eich cwrs.

Yn ôl UCAS: ‘Mae addasu yn gyfle i chi ystyried ble a beth i astudio. Os ydych wedi cael cynnig amodol eich dewis cyntaf wedi ei dderbyn - ac o ganlyniad gyda chynnig diamod - mae’n bosib y gallech chi newid eich cwrs i un arall yr ydych yn ffafrio.’

Mae gennym lawer o opsiynau ar gyfer ymgeiswyr gyda graddau uwch, Mae ein graddau 4 mlynedd MSci yn raddau israddedig uwch, gan ychwanegu blwyddyn bellach sy'n canolbwyntio ar ymchwil i BSc 3 blynedd. Maent yn rhoi gwybodaeth fanwl am eich maes pwnc ynghyd â hyfforddiant arbenigol mewn ystod eang o dechnegau labordy cyn treulio blwyddyn yn datblygu prosiect ymchwil estynedig.

Archwiliwch ein graddau

Os oeddech chi wedi colli allan ar feddygaeth

Mae’n bosib y bydd colli allan ar eich lle ar gwrs israddedig meddygaeth yn teimlo fel diwedd y byd ond gallwn eich sicrhau nad ydyw. Ni fyddwch ar eich pen eich hun yn y sefyllfa hon ac mae digon o opsiynau ar gael ichi.

Tra bod hi’n annhebygol y byddai lleoedd meddygaeth ar gael yn ystod clirio - gan fod y mwyafrif o ysgolion meddygol yn rhedeg eu rhestrau aros eu hunain trwy gydol y cylch - mae yna lwybrau amgen i feddygaeth yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe.

Mae pob un o'n 6 Gradd Llwybr yn cynnig cyfweliad gwarantedig ar gyfer Meddygaeth i Raddedigion.

Archwiliwch ein graddau llwybr