Cyflymu arloesedd drwy gydweithio academaidd a’r GIG
Mynychodd y Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd ail symposiwm Canolfan Arloesedd Technolegau Cynorthwyol (ATiC) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ddydd Iau, Hydref 13, ar y thema Cyflymu Arloesedd mewn Iechyd a Lles.
Roedd Symposiwm ATiC 2022 yn myfyrio ar effaith ac etifeddiaeth rhaglen arloesol Cyflymu Cymru, gan ddangos sut mae Cymru yn cyflymu arloesedd trwy gydweithio academaidd a’r GIG, ac yn grymuso cleifion trwy ymchwil sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac arloesi technoleg.
Partneriaid ATiC yn Accelerate, a ariennir ar y cyd gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) trwy Lywodraeth Cymru, yw Cyflymydd Arloesedd Clinigol (CIA) Prifysgol Caerdydd, Canolfan Technoleg Gofal Iechyd Prifysgol Abertawe (HTC), a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, sy'n arwain y rhaglen. Ymunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a’i Sefydliad TriTech, y mae ATiC a HTC yn bartneriaid academaidd allweddol ohono, ag Accelerate ar gyfer y Symposiwm hefyd.
Amlygodd y digwyddiad sut mae Accelerate wedi creu cyfleoedd a phartneriaethau cydweithredol newydd ar draws sectorau a sefydliadau. Edrychodd hefyd i’r dyfodol, wrth i’r cam hwn o’r rhaglen Accelerate ddod i ben ddiwedd Rhagfyr 2022.
Roedd y prif siaradwyr a agorodd y digwyddiad yn cynnwys yr Athro Philip Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol a Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Yn siarad ar ran HTC oedd yr Athro Keith Lloyd, Deon Gweithredol a Dirprwy Is-ganghellor, Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd Prifysgol Abertawe. Ymunodd Jordan Copner, Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd Copner Biotech â Keith, a gyflwynodd astudiaeth achos ar y cydweithrediad â HTC.