Astudio Effeithiolrwydd, Trefniadau A Darpariaeth Gofal
Mae dros 90% o'r cysylltiadau â chleifion a wneir yn y GIG yn digwydd ym maes gofal sylfaenol, gofal brys neu ofal mewn argyfwng, ac mae'r galw yn cynyddu. Rydym yn defnyddio dulliau meintiol ac ansoddol o ymchwilio i'r ffordd y gall y rhan hon o'r system gofal iechyd fod mor effeithiol, effeithlon a chynaliadwy â phosibl. Rydym yn cydweithio â phartneriaid yn y GIG i ymgymryd ag ymchwil sy'n ymateb i heriau go iawn – ymchwil sy'n berthnasol i bolisïau, sy'n canolbwyntio ar y claf ac sy'n cael effaith. Mae Canolfan PRIME wedi cael mwy na £4.8m mewn cyllid seilwaith.