Fel aelod o gronfa ddata gwirfoddolwyr y Grŵp Ymchwil Dementia (Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, Prifysgol Abertawe), amlinella’r ddogfen ganlynol sut yr ydym yn prosesu'ch data.
Prifysgol Abertawe yw'r Rheolwr Data ac mae wedi ymrwymo i amddiffyn hawliau unigolion yn unol â Deddf Diogelu Data 1998 (DPA) a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) newydd.
Pa wybodaeth ydyn ni'n ei chasglu amdanoch?
Yn dilyn eich cofrestru, rydych chi'n darparu data personol i ni sy'n ymwneud â'ch enw, dyddiad geni, a manylion cyswllt. Wrth gymryd rhan yn ein hymchwil, casglwn sgoriau profion amrywiol. Er enghraifft, ffurfiwn raddfeydd cyffredinol ar swyddogaeth wybyddol mewn perthynas â holiaduron penodol ac yna penderfynwn pa mor gyflym a / neu gywir y gallwch ymateb i ysgogiadau amrywiol. Caiff eich data ei storio mewn ffeiliau a ddiogelir gan gyfrinair ar gyfrifiaduron a ddiogelir gan gyfrinair.
Sut caiff eich gwybodaeth ei defnyddio?
Mae'r wybodaeth hon yn ein galluogi i'ch clustnodi i astudiaethau addas yr hoffech gymryd rhan ynddynt efallai. Mae hefyd yn caniatáu i ni gysylltu â chi gyda gwybodaeth am ddigwyddiadau cysylltiedig yr hoffech eu mynychu efallai (e.e. boreau coffi ymchwil).
Beth yw ein sylfaen gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?
Trwy gofrestru a darparu'r manylion yma, rydych chi'n ymuno i mewn i'r gronfa ddata at ddibenion clywed am gyfleoedd a digwyddiadau ymchwil, a thrwy hynny yn rhoi caniatâd i ni brosesu'ch data yn y dull hwn. Gellir cael caniatâd penodol hefyd fel rhan o bob astudiaeth ymchwil rydych chi'n dewis cymryd rhan ynddo. Mae angen y caniatâd astudiaeth-benodol hwn i alluogi'r ymchwilydd i storio data sy'n gysylltiedig â phrawf ac er mwyn i'ch data gael ei ledaenu rhwng aelodau'r gronfa ddata ac ymchwilwyr cysylltiedig.
Rydych wrth gwrs, yn rhydd i dynnu'ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg, a golyga hyn y bydd eich data'n cael ei dynnu o'r gronfa ddata. I wneud hynny, cysylltwch â ni trwy e-bost (takepart@swansea.ac.uk) neu dros y ffôn (01792 518 530).
Pwy sy’n derbyn eich gwybodaeth?
Dim ond rheolwyr y gronfa ddata (Dr Claire Hanley a Dr Amy Jenkins ar hyn o bryd) sydd â mynediad uniongyrchol at y wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu wrth gofrestru, ac sy'n gyfrifol am ei phrosesu fel yr amlinellwyd uchod. Mae rheolwyr y gronfa ddata yn cysylltu â chi ar ran ymchwilwyr unigol ac yn ôl eich disgresiwn chi pa un ai a ydych yn cysylltu â'r ymchwilydd i gymryd rhan yn eu hastudiaeth. Ni roddir eich data personol i'r ymchwilwyr. Gellir storio data sy'n ymwneud â sgoriau profion yn y gronfa ddata, a'i drosglwyddo rhwng rheolwyr y gronfa ddata ac ymchwilwyr unigol, lle cafwyd caniatâd penodol, fel yr amlinellwyd uchod. Ni chaiff eich data ei drosglwyddo y tu allan i'r UE.
Pa mod hir cedwir eich gwybodaeth?
Mae’r pwrpas o brosesu data yn barhaus, felly dyna yw natur ein hymchwil. Bydd eich data felly yn cael ei gadw am gyfnod amhenodol, neu tan yr amser hwnnw yr ydych am dynnu eich caniatâd yn ôl.
Beth yw eich hawliau?
Mae gennych hawl i gael mynediad i'ch gwybodaeth bersonol, i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol, i gywiro, dileu, cyfyngu ac i borthi'ch gwybodaeth bersonol. Ewch i dudalennau gwe Diogelu Data'r Brifysgol i gael gwybodaeth bellach mewn perthynas â'ch hawliau.
Yn y man cyntaf, dylid gwneud unrhyw geisiadau neu wrthwynebiadau i reolwyr y gronfa ddata trwy e-bost (takepart@swansea.ac.uk) neu dros y ffôn (01792 518 530).
Gellir hefyd gwneud ceisiadau neu wrthwynebiadau yn ysgrifenedig at Swyddog Diogelu Data'r Brifysgol, fesul e-bost (dataprotection@swansea.ac.uk) neu drwy'r post:
Swyddog Cydymffurfio’r Brifysgol (FOI/DP)
Swyddfa’r Is-ganghellor
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
Abertawe
SA2 8PP
Sut mae gwneud cwyn
Os yr ydych yn anhapus gyda’r ffordd y mae eich data personol wedi'i brosesu, gallwch gysylltu â rheolwyr y gronfa ddata neu Swyddog Diogelu Data'r Brifysgol yn y lle cyntaf, gan ddefnyddio'r manylion cyswllt sydd uchod.
Os ydych yn parhau i fod yn anfodlon yna mae gennych yr hawl i wneud cais uniongyrchol i'r Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad. Mae modd cysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn:
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF