Baner LGBTQ+

Enwyd Prifysgol Abertawe'n un o'r 100 o gyflogwyr mwyaf cynhwysol yn y DU ar gyfer staff LHDTC+ am yr wythfed tro yn olynol.

Bob blwyddyn, mae Prifysgol Abertawe'n cymryd rhan ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall, sy'n mesur yr ymdrechion a wneir gan weithleoedd i fynd i'r afael â gwahaniaethu a chreu amgylchedd cynhwysol i gyflogwyr lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws (LHDTC+).

Eleni, mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd ei safle uchaf erioed yn y mynegai, gan godi o'r 12fed i'r 5ed safle.

Mae Prifysgol Abertawe hefyd wedi gwella ei safle ymysg gweithleoedd sector addysg sy'n cymryd rhan, gan symud o'r pumed safle yn 2023 i'r ail safle yn 2024. At hynny, mae'r Brifysgol wedi cadw ei gwobr Safon Aur, sy'n cydnabod bod Prifysgol Abertawe wedi ymgorffori cydraddoldeb LHDTC+ yn ei meysydd gwaith craidd ar y lefel uchaf.

Meddai'r Athro Judith Lamie, Dirprwy Is-ganghellor (Rhyngwladol), “Mae'r safle gwell hwn, yn ogystal â chadw'r dyfarniad aur, yn adlewyrchu gwaith caled ac ymdrechion cydweithwyr ar draws ein Prifysgol, gan gynnwys ein Rhwydwaith Staff LHDTC+, i sicrhau bod ein Prifysgol mor gynhwysol â phosib. Hoffwn ddiolch yn fawr eto i bob un o'n cydweithwyr sydd wedi bod yn rhan o'r gweithgarwch hwn, dros y ddeuddeng mis diwethaf ac yn ystod blynyddoedd blaenorol.

“Mae cymryd rhan ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall yn un o'r ffyrdd niferus rydym yn dathlu balchder yn amrywiaeth ein cymuned y Brifysgol a'n hymroddiad i hyrwyddo cydraddoldeb.”

Rhannu'r stori