Angor a morthwyl

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi lansiad swyddogol gradd israddedig ddwbl arloesol (LLB Cyfraith Forwrol) mewn cydweithrediad â Phrifysgol Dalian Maritime (DMU), Tsieina, a bydd y garfan gyntaf o fyfyrwyr yn dechrau eu hastudiaethau ym mis Medi 2024.

Caiff y rhaglen arloesol hon, sy'n canolbwyntio ar gyfraith fasnachol a morwrol, ei haddysgu yn DMU a chaiff myfyrwyr yr opsiwn i gwblhau eu blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Abertawe. Ar ôl cwblhau'r cwrs pedair blynedd, bydd graddedigion yn derbyn gradd gan Brifysgol Abertawe a DMU.

Cymeradwyodd Gweinyddiaeth Addysg Tsiena y rhaglen ar ôl proses graffu drylwyr. Cafodd ei lansio’n ffurfiol ar 12 Mehefin, 2024, mewn seremoni rithwir yng nghwmni uwch-reolwyr o'r ddau sefydliad.

Mae Prifysgol Abertawe a DMU wedi bod â phartneriaeth gref ers 2005, gan groesawu llawer o fyfyrwyr a staff o DMU i Gymru. 

Yn 2019, gwnaeth DMU ofyn i Brifysgol Abertawe am ddatblygu Rhaglen Addysg ar y Cyd (JEP) ar gyfer gradd israddedig pedair blynedd mewn Gyfraith Forwrol.   Roedd y rhaglen ar y cyd hon, sy'n manteisio ar gryfderau'r ddau sefydliad, ymhlith un o dri chydweithrediad yn unig a gymeradwywyd gan Weinyddiaeth Addysg Tsieina ym mis Mai eleni.

Trwy'r cydweithrediad hwn, bydd myfyrwyr yn astudio gradd Prifysgol Abertawe ar gampws DMU a bydd staff academaidd o Abertawe'n cyflwyno traean o gynnwys addysgu’r rhaglen fel staff academaidd gwadd. Bydd myfyrwyr yn ymgysylltu â chymuned Prifysgol Abertawe wyneb yn wyneb ac ar-lein.

"Mae'r cydweithrediad hwn yn dathlu carreg filltir arwyddocaol yn ein perthynas hirsefydlog gyda Phrifysgol Dalian Maritime ac mae'n dangos gwaith caled ac ymroddiad y ddau sefydliad i ddarparu profiad addysgol rhagorol," dywedodd yr Athro Judith Lamie, Dirprwy Is-ganghellor Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe.

"Rydym wrth ein boddau'n croesawu myfyrwyr i'r rhaglen arloesol hon, a fydd yn cynhyrchu graddedigion sy'n ddeniadol i gyflogwyr ym mhedwar ban byd ac yn datblygu'n sylweddol gysylltiadau ymchwil rhwng ein dau sefydliad. Edrychwn ymlaen at y safbwyntiau unigryw y bydd myfyrwyr yn eu rhoi i'n cymuned academaidd. 

Rhannu'r stori