Bydd Beiciau Prifysgol Abertawe yn ôl yn fuan ac ar gael i'w llogi, unwaith eto'n cynnig ffordd hwylus a fforddiadwy o deithio ar draws y ddinas.
Mae Prifysgol Abertwe wedi gweithio mewn partneriaeth â nextbike, wedi'i bweru gan Tier, a Chyngor Abertawe. Rydym yn cyflwyno 100 o feiciau newydd sbon i rwydwaith llogi beiciau Abertawe dros yr wythnosau nesaf.
Mae gan y beiciau, sy'n cynnwys brand newydd y Brifysgol, systemau cloi gwell a system olrhain GPS. Maent yn welliant ar fodelau blaenorol y fenter a byddant yn darparu profiad esmwyth a chyfforddus i feicwyr newydd a rhai sy’n dychwelyd i’r cynllun.
Bydd y gorsaf ddocio ar draws y ddinas ar gael eto ddydd Llun 16 Medi ar ôl cael eu gweddnewid a bydd dau hyb newydd, un ger Neuadd y Ddinas Abertawe ac un ger Gorsaf Fysus Abertawe, ar gael yn fuan.
Gellir llogi'r beiciau fel o'r blaen gan ddefnyddio ap next bike uk sydd wedi'i wella. Mae'n parhau'n ffordd boblogaidd a chost-effeithiol o groesi'r ddinas, ac mae prisiau talu wrth feicio yn dechrau o 50c am 20 munud i fyfyrwyr a staff Prifysgol Abertawe. (gweler isod am fanylion pellach am y prisiau)
Yn ogystal â gwella cysylltedd i staff a myfyrwyr y Brifysgol, bydd ehangu'r rhwydwaith, gan ychwanegu beiciau a gorsafoedd dociau, hefyd yn cynnig cyfleoedd i'r gymuned leol ehangach ddewis beicio fel dull teithio rheolaidd. Bydd yn cynnig y manteision ychwanegol o gadw'n heini, arbed costau teithio a bod yn ystyriol o'r amgylchedd.
Meddai Ben Lucas o Brifysgol Abertawe:
"Rydym wrth ein boddau y bydd cynllun Beiciau Prifysgol Abertawe'n parhau â gwaith cynllun llwyddiannus Beiciau Santander gan ei wella. Mae'r cynllun hwn wedi hwyluso mwy na 150,00 o deithiau yn y ddinas hyd yn hyn.
"Gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, Tier a Bikeability, rydym wedi mireinio gweithrediad y cynllun, gan gyflwyno hybiau mewn lleoliadau newydd a'r genhedlaeth nesaf o dechnoleg feicio i sicrhau ei fod yn fwy hygyrch, diogel a phleserus nag erioed.
Ychwanegodd Michael Ventouris o Tier:
"Mae'n bleser mawr gennym weithio gyda Phrifysgol Abertawe i barhau â'r cynllun llwyddiannus hwn sydd wedi cael lefelau mor uchel o ddefnydd a chefnogaeth mor gadarnhaol gan y gymuned."
"Bydd y beiciau newydd yn rhoi hwb i'r cynllun hynod boblogaidd gan sicrhau cynnydd yn y defnydd a phroffidioldeb parhaus."
Bydd y beiciau'n parhau'n ddewis fforddiadwy i deithwyr, gan gynnwys staff, myfyrwyr ac aelodau'r cyhoedd. Dyma'r prisiau:
- Talu wrth Feicio: £2 ar gyfer 20 munud ac uchafswm dyddiol o £12;
- Aelodaeth beiciau campws (ar gyfer myfyrwyr a staff sydd wedi cofrestru â chyfrif @abertawe.ac.uk yn unig): £10 y flwyddyn - y 30 munud gyntaf am ddim, yna 50c am 20 munud ac uchafswm dyddiol o £5.
- Aelodaeth fisol reolaidd: £12 y mis - y 30 munud gyntaf am ddim, yna £2 am 20 munud. Uchafswm dyddiol o £12; ac
- Aelodaeth flynyddol reolaidd: £78 y flwyddyn - y 30 munud gyntaf am ddim, yna £2 am 20 munud. Uchafswm dyddiol o £12.