Yr Athro Andrew James Davies a'r Athro Mike Gravenor.

Yr Athro Andrew James Davies a'r Athro Mike Gravenor.

Mae dau academydd o Brifysgol Abertawe wedi'u penodi i baneli peilot Pobl, Diwylliant a'r Amgylchedd (PCE) Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2029.

Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yw system y DU ar gyfer asesu rhagoriaeth ymchwil mewn sefydliadau addysg uwch, ac mae'r canlyniadau cysylltiedig yn dylanwadu ar ddyrannu cyllid cyhoeddus ar gyfer ymchwil mewn prifysgolion. 

Yr academyddion o Brifysgol Abertawe sydd wedi'u penodi yw:

Bydd REF 2029 yn ehangu'r diffiniad o ragoriaeth ymchwil drwy gydnabod yr amryw ymchwil, rolau ac unigolion sy'n cyfrannu at amgylchedd ymchwil y DU a rhan o hyn fydd datblygu'r elfen PCE.

Bydd yr ymarfer peilot PCE yn profi cyflwyno ac asesu amryw elfennau PCE ac aelodau o’r paneli peilot PCE fydd yn cynnal y gwaith asesu. Caiff adborth gan y paneli peilot ei gynnwys yn yr adroddiad terfynol, gan lywio arweiniad REF 2029 ar PCE.

Wrth gyfeirio at y penodiadau, dywedodd yr Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:

"Rwyf wrth fy modd bod cydweithwyr o Brifysgol Abertawe wedi cael eu dewis i gyfrannu at y gwaith hollbwysig hwn.  Bydd eu sgiliau arbenigol yn amhrisiadwy wrth lunio dyfodol asesu ymchwil yn y DU ac mae'r gydnabyddiaeth hon yn tanlinellu safon uchel yr ymchwil a'r arweinyddiaeth academaidd ym Mhrifysgol Abertawe." 

Rhannu'r stori