The Beat of Our Hearts

The Beat of Our Hearts - llun gan Craig Fuller

Cynhelir darllediad ffilm arbennig o'r ddrama glodfawr gan Natalie McGrath, The Beat of Our Hearts, yn Amgueddfa Caerdydd am 11am ddydd Sadwrn 8 Chwefror, gan nodi Mis Hanes LDHTC+.

Mae The Beat of Our Hearts, sef drama sy'n ysgogi'r meddwl ac a ysbrydolwyd gan ymchwil gydweithredol a gynhaliwyd gan Dr Charlotte Jones o Adran Troseddeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol Prifysgol Abertawe, yn archwilio themâu unigrwydd, cariad a pherthyn, gan arddangos pŵer cydweithredu cymunedol.

Caiff y ffilm ei chyflwyno gan awdur y ddrama, Natalie McGrath, a Mark Etheridge, Prif Guradur Datblygu Casgliadau: LDHTC+ yn Amgueddfa Hanes Cenedlaethol Sain Ffagan.

Meddai Dr Charlotte Jones, “Mae The Beat of Our Hearts yn adrodd stori am gysylltiadau cwiar ar draws amser a chenedlaethau, a'r cyffro o greu lleoedd cadarnhaol sy'n llawn llawenydd a chreadigrwydd. Ysbrydolwyd y stori hon gan gorff ymchwil, a chyfraniadau gan unigolion a chymunedau ar draws y de-orllewin.

“Rydym yn ddiolchgar i Brifysgol Abertawe am roi'r cyfle i ni rannu gwaith o'r prosiect hwn a oedd yn ymdrin yn wreiddiol â bywydau LDHTC+ yng Nghernyw ac yn Nyfnaint, ac i archwilio rhai o'r cysylltiadau a'r cyferbyniadau â bywydau LDHTC+ ar draws Cymru. Dyma'r tro cyntaf i'r darllediad arbennig hwn o ddrama a berfformiwyd yn wreiddiol yn Theatr Northcott gael ei arddangos yng Nghymru - rydym yn llawn cyffro i rannu'r stori hyfryd hon ar gyfer Mis Hanes LDHTC+!”

Mae lleoedd am ddim ond nifer cyfyngedig ohonynt sydd ar gael, felly mae'n hanfodol cadw lle o flaen llaw.

Prynwch eich tocyn i wylio'r ffilm (1 awr a 45 munud o hyd).

Bydd gweithdy ysgrifennu creadigol am ddim, a arweinir gan Norena Shopland, yn dilyn y darllediad ffilm ac yn cynnig cyfle i gyfranogwyr archwilio ac ymateb i themâu'r ddrama drwy eu hysgrifennu eu hun. Er bod pob tocyn ar gyfer y gweithdy wedi cael ei werthu ar hyn o bryd, gall unigolion sydd â diddordeb ymuno â'r rhestr aros i gael gwybod os bydd lleoedd yn dod ar gael.

Rhannu'r stori