Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00287
Math o Gytundeb
Contract anghyfyngedig
Cyflog
£25,138 i £27,979 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Gwasanaethau Digidol
Lleoliad
Singleton neu Gampws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
28 Gorff 2024
Dyddiad Cyfweliad
5 Awst 2024
Ymholiadau Anffurfiol
Nicky Roberts n.s.roberts@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae'r Gwasanaethau Digidol yn cael eu trawsnewid yn gyflym a bydd ail-lunio ein darpariaeth Desg Wasanaeth i fodloni heriau cefnogi a galluogi buddsoddiad ehangach gwerth £20m yn y Gwasanaethau TG (mewn meysydd megis Seiberddiogelwch a Rhwydweithio) yn elfen sylfaenol allweddol.

Y weledigaeth fydd ailgysylltu ein darpariaeth cymorth TG ag anghenion ein cwsmeriaid, proffesiynoli ein gwasanaethau, arbed amser i bawb a phontio'r bylchau gallu sydd gennym.  

Tîm y Ddesg Wasanaeth yw wyneb cyhoeddus y Gwasanaethau Digidol, gan osod safonau o ran hyrwyddo cwsmeriaid ac ymgysylltu â nhw. Cynnig cymorth arbenigol, cyngor a chymryd cyfrifoldeb am ymateb i ddigwyddiadau a datrys problemau cwsmeriaid mewn ffordd brydlon ac effeithlon fydd y conglfeini wrth wireddu ein gweledigaeth.   

A chithau'n Dechnegydd 2il Linell y Ddesg Wasanaeth TG sy'n arbenigo mewn cymorth clyweledol, byddwch yn gwneud cyfraniad allweddol at ddarparu gwasanaeth cymorth clyweledol proffesiynol sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid.

Defnyddio eich profiad a'ch sgiliau (yn ogystal â phrofiad a sgiliau aelodau eraill eich tîm a chydweithwyr yn y Gwasanaethau TG yn ehangach) i ymdrin â digwyddiadau ar draws y dirwedd TG a chlyweledol fydd prif her y rôl hon.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Rhannu

Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr