- Rhif y Swydd
- SU00353
- Math o Gytundeb
- Contract anghyfyngedig
- Cyflog
- £28,759 i £32,332 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Gwasanaethau Digidol
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 11 Awst 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 28 Awst 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Carl Evans c.evans@swansea.ac.uk
- Darren Griffiths d.m.griffiths@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae'r Technegydd Isadeiledd yn cynorthwyo wrth ddiogelu, cyflwyno a rhoi ein gwasanaethau isadeiledd ar waith bob dydd, gan ddatblygu a chefnogi cynnyrch a gwasanaethau sy'n effeithlon, yn ddiogel ac sy'n perfformio hyd eu heithaf gan gyd-weddu â nodau ac amcanion y busnes. Mae deiliad y swydd yn gyfrifol am gynorthwyo wrth gynnal a chadw data ffurfweddu, cynllunio capasiti, argaeledd a pharhad gwasanaethau. Bydd yn glynu wrth lefelau gwasanaethau a holl brosesau'r sefydliad (megis prosesau digwyddiadau, problemau a rheoli newid) mewn perthynas â gwasanaethau cyfrifiadura defnyddwyr terfynol. Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo wrth gefnogi'r tîm llinell gyntaf a'r tîm ail linell wrth iddynt roi cymorth i ddefnyddwyr terfynol y Brifysgol (gan gynnwys myfyrwyr, staff a gwesteion); bydd yn cyfrannu at ddadansoddi a dylunio ffyrdd o wella gwasanaethau'n barhaus ynghyd â datblygu a chyflwyno atebion sy'n seiliedig ar isadeiledd. Bydd deiliad y rôl yn chwarae rhan bwysig wrth gynorthwyo i roi saerniaethau cyflwr targed ar waith drwy ddilyn dyluniadau atebion cydlynol, saerniaethau cyfeirio, patrymau, safonau a mapiau llwybrau mewn cydweithrediad agos â'r Rheolwr Gwasanaethau Cwmwl, Cyfrifiadura a Storio a'r Prif Bensaer Isadeiledd
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Mae menywod a chydweithwyr o leiafrifoedd ethnig wedi'u tangynrychioli yn y byd academaidd a byddem yn annog ceisiadau gan y grwpiau hyn yn benodol. Penodir ar sail teilyngdod bob amser.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.