- Rhif y Swydd
- SU00376
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £38,205 i £44,263 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 11 Gorff 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 31 Gorff 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
- Dara Almeida Medina Dara.almeidamedina@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae hon yn swydd am gyfnod penodol tan fis Mawrth 2026, gan weithio 21 awr yr wythnos.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio mewn tîm ymchwil iechyd meddwl ffyniannus gyda thros £40m mewn cyllid ar y cyd dros y pum mlynedd diwethaf a phortffolio o brosiectau. Arweinir y tîm gan yr Athro Ann John ac mae'n canolbwyntio ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc ac atal hunanladdiad a hunan-niweidio. Mae'r Athro Ann John yn arwain y thema Gwyddor Data yng Nghanolfan Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Wolfson a Chronfa Ddata Gwybodaeth am Hunanladdiad-Cymru ac mae'n un o Brif Ymchwilwyr y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH). Hefyd mae'r Athro Ann yn Gyd-gyfarwyddwr DATAMIND, sef Hyb Ymchwil Data Iechyd y DU ar gyfer Iechyd Meddwl, sydd wedi sicrhau cyllid am 5 mlynedd arall. Mae hi hefyd yn cyd-arwain thema Data a Digidol y Genhadaeth Iechyd Meddwl sydd â'r nod o alluogi technolegau data a digidol i gael eu defnyddio'n effeithlon ac yn gyson wrth ddatblygu a gwerthuso triniaethau newydd ar gyfer anhwylderau iechyd meddwl.
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â'r tîm i weithio'n agos gyda Rheolwr y Prosiect a'r Athro Ann John wrth reoli’r portffolio o brosiectau yn y tîm. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ochr yn ochr â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, gan gynnwys pobl sydd â phrofiad personol a gwyddonwyr data, i sicrhau bod yr holl brosiectau'n cyflawni eu dangosyddion perfformiad allweddol o fewn yr amserlenni a'r cyllidebau y cytunir arnynt.
Bydd gan ddeiliad y swydd brofiad a gwybodaeth ym maes cyflawni prosiectau, yn ddelfrydol ym maes ymchwil i iechyd meddwl, monitro cyllidebau a rhagfynegi a chynllunio prosiectau.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Dylai eich llythyr eglurhaol gynnwys tystiolaeth yn erbyn y meini prawf hanfodol yn y disgrifiad swydd a rhestr o gyhoeddiadau (os yw'n berthnasol).