- Rhif y Swydd
- SU00377
- Math o Gytundeb
- Contract anghyfyngedig
- Cyflog
- £32,982 i £37,099 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 29 Gorff 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 14 Awst 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Bethan Davies B.J.Davies@Swansea.ac.uk
- Stephen Buss S.M.Buss@Swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Rôl barhaol yw hon am 14 awr yr wythnos.
Ar hyn o bryd, mae'r Ysgol yn dilyn strategaeth gyffrous ac arloesol i ehangu ei darpariaeth o raglenni proffesiynol amrywiol. Fel rhan o hyn, mae gan yr Ysgol raglen israddedig MOst hirsefydlog ac wedi'i dilysu'n llwyddiannus, sy'n parhau i ddenu niferoedd cynyddol o fyfyrwyr. Y rhaglen hon yw'r unig un o'i bath yng Nghymru sy'n cynnig llwyfan ar gyfer addysgu ac ymchwil Osteopatheg arloesol, a bellach rydym ni'n dymuno ychwanegu at ein tîm osteopatheg deinamig drwy benodi ymgeisydd cymwys gyda photensial a diddordeb academaidd mewn Osteopatheg i ddatblygu ei yrfa.
Gofynnir i ddeiliad y swydd hon gyfrannu at addysgu ac asesu myfyrwyr a'u goruchwylio mewn lleoliad clinigol ar lefel israddedig, ond hefyd ar draws yr Ysgol lle bo angen, yn ogystal â rhannu cyfrifoldebau gweinyddol sefydliadol ac academaidd
Mae'r swydd yn gofyn am ddarparu safon uchel o addysgu a dysgu myfyrwyr, ac ymrwymiad i wella profiad cyffredinol y myfyrwyr.
Rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru gyda'r Cyngor Osteopathig Cyffredinol (GOsC) fel osteopath sy'n ymarfer a chael profiad sylweddol mewn ymarfer clinigol osteopathig ôl-raddedig.
E-bostiwch Bethan Davies, B.J.Davies@abertawe.ac.uk i gael trafodaeth anffurfiol a rhagor o wybodaeth am y rôl gyffrous hon.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth foddhaol o wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau.