- Rhif y Swydd
- SU00398
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £32,982 i £37,099 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 11 Gorff 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 7 Awst 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Hazel Lockart-Jones H.M.Lockhart@Swansea.ac.uk
- Justin Biddle j.biddle@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae gennym 2 swydd amser llawn sydd ar gael am gontract cyfnod penodol o 12 mis.
Er mwyn cyflawni ei huchelgais o fod ymysg y 30 o brifysgolion gorau, mae angen gweithlu gwasanaethau proffesiynol ar Brifysgol Abertawe â’r sgiliau amrywiol i sicrhau y gall gyflawni rhagoriaeth drwy systemau a phrosesau effeithlon ac effeithiol sy'n manteisio ar ddatblygiadau technolegol.
Mae UKSeRP (UK Secure eResearch Platform) yn set dechnoleg a ddatblygwyd gan y grŵp Gwyddor Data Poblogaethau yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Mae Prifysgol Abertawe’n gweithio gyda sefydliadau yn y DU ac yn fyd-eang i gasglu gwybodaeth a phrofiad mewn perthynas â'r platfform er mwyn hwyluso dulliau storio a mynediad diogel at setiau data ymchwil i gynorthwyo gyda gweithgarwch ymchwil.
Yn dilyn llwyddiant banc data SAIL, nodwyd bod yr isadeiledd a ddefnyddiwyd i'w ddarparu'n addas at ddibenion cynnal setiau data ar gyfer grwpiau ymchwil eraill yn Abertawe. Yn dilyn diddordeb gan sefydliadau yn Awstralia a Chanada, fe'i gweithredir mewn dau leoliad y tu allan i'r DU.
Yn y swydd hon, byddwch yn:
- Gweithio fel aelod o'r Tîm Arloesi i gyflawni prosiectau strategol, gan ein cefnogi wrth i ni fudo i Kubernetes.
- Meithrin profiad dyfnach ym maes strategaethau defnyddio GitOps.
- Gweithio gydag aelodau'r uwch-dîm i ddylunio, adeiladu a defnyddio piblinellau CI/CD i hwyluso gwaith ein tîm datblygu.
- Achub ar y cyfle i ddysgu a defnyddio llawer o dechnolegau blaenllaw wrth i ni archwilio eu mabwysiadu.
- Defnyddio'ch gwybodaeth am Python i weithredu ac ailstrwythuro Airflow DAGs i ymdrin â chylch bywyd data yn UKSeRP.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.