- Rhif y Swydd
- SU00407
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £38,205 i £44,263 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Gwasanaeth Ymchwil, Ymrwymiad a Chyfnewidiad
- Lleoliad
- Campws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 21 Gorff 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 30 Gorff 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Julie Griffiths e.j.griffiths@swansea.ac.uk
- Mark Penny M.W.Penny@Swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Os ydych chi'n unigolyn trefnus iawn sydd â sgiliau cyfathrebu gwych, efallai mai dyma'r swydd ichi!
Gan weithio fel rhan o'r Swyddogaeth Datblygu Ymchwil, byddwch yn darparu gwasanaeth cefnogi ymchwil i brif ymchwilwyr yn y Gyfadran ddynodedig. Fel aelod o Adran y Gwasanaethau Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesi (REIS), byddwch yn nodi galwadau cyllido priodol ac yn blaenoriaethu ymatebion y Brifysgol i gyfleoedd cyllido allanol mewn cydweithrediad â darpar brif ymchwilwyr, gan sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau a gweithdrefnau'r Brifysgol ynghyd â chanllawiau darparwyr cyllid.
Mae’r rôl yn darparu cymorth ac arweiniad i academyddion, prif ymchwilwyr a gwasanaethau proffesiynol yn yr holl waith sy’n gysylltiedig â pharatoi a llunio ceisiadau a’u cyflwyno ar gyfer cyllid ymchwil a dyfarniadau. Byddwch yn defnyddio System Rheoli Dyfarniadau (AMS) y Brifysgol i symud ceisiadau am grantiau yn eu blaen a'u dilysu i'w cyflwyno i'r cyllidwr.
Mae'r rôl yn cefnogi prif ymchwilwyr, staff gwasanaethau proffesiynol ac uwch-reolwyr wrth gydlynu'r portffolio ymchwil diffiniedig a chyfleoedd cyllid allanol. Byddwch yn sicrhau y glynir wrth y safonau, gan sicrhau y caiff ceisiadau o’r safon uchaf posib eu datblygu a'u cyflwyno i noddwyr. Cyflawnir hyn drwy broses gwella ansawdd gadarn sydd wedi’i rheoli, ar gyfer camau ysgrifennu ac adolygiad technegol pob cais.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio fel rhan integredig o dîm yr Hyb Ymchwil ac Arloesi, gan ymateb i flaenoriaethau’r Gyfadran, adrodd am gynnydd a gweithio’n effeithiol gyda deiliaid swyddi eraill yn y gwasanaethau proffesiynol er mwyn darparu gwasanaeth effeithiol a chydgysylltiedig i ymchwilwyr.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.