Darlithydd-Uwch-ddarlithydd mewn Diogelwch Meddalwedd - Llwybr Ymchwil Uwch
- Rhif y Swydd
- SU00447
- Math o Gytundeb
- Contract anghyfyngedig
- Cyflog
- £38,205 i £54,395 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Campws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 8 Awst 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 16 Medi 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Xianghua Xie x.xie@swansea.ac.uk
- Monika Seisenberger m.seisenberger@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae'r Adran Gyfrifiadureg yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn gwahodd ceisiadau gan unigolion uchelgeisiol a dawnus i ymuno â'n tîm academaidd fel Darlithydd/Uwch-ddarlithydd mewn Diogelwch Meddalwedd. Swydd barhaol yw hon. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad a photensial rhagorol mewn Diogelwch Meddalwedd, gan arloesi dulliau o'r radd flaenaf a mynd i'r afael â phroblemau diogelwch meddalwedd newydd. O ddiddordeb penodol y mae ymagweddau arbrofol sy'n cyflwyno tystiolaeth empirig o ddiogelwch neu wydnwch y feddalwedd sy'n cael ei hystyried, gan arddangos na fydd y feddalwedd yn achosi difrod, wedi'i diogelu yn erbyn ymosodiadau ac yn gallu adfer. Bydd disgwyl i ymgeiswyr fod â phrofiad o ddulliau addysgu arloesol, gofalu am brofiad myfyrwyr, a gallu cyfrannu at ddatblygu cwricwlwm modern a ategir gan ddysgu ymarferol yn y labordy a thrwy brosiectau.
Mae Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Abertawe yn uchel ei bri am addysgu ac ymchwil: Gosodwyd hi yn y 25ain safle yn y DU ac yn 1af yng Nghymru gan Ganllaw Prifysgolion The Guardian 2023. Rydym wrth ein boddau bod 90% o'n hymchwil yn arwain y ffordd yn fyd-eang ac yn rhagori'n rhyngwladol yn ôl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021, a bod 100% o'n heffaith yn arwain y ffordd yn fyd-eang ac yn rhagori'n rhyngwladol, sy'n dangos ein bod yn adran sy'n ymroddedig i wreiddio effaith ar y byd go iawn ym mhopeth a wnawn. Mae'r Adran yn cynnal wyth grŵp ymchwil: Deallusrwydd Artiffisial; Seiberddiogelwch; Addysg, Hanes ac Athroniaeth; Rhyngweithio rhwng Pobl a Chyfrifiaduron; Roboteg Ddeallus; Gwirio Rheilffyrdd; Cyfrifiadureg Ddamcaniaethol; a Chyfrifiadura Gweledol. Rhestrwyd yr Adran Gyfrifiadureg rhwng 126 a 150 ymysg sefydliadau gorau’r byd yn Nhablau Prifysgolion y Byd Times Higher Education 2023 yn ôl Pwnc. Mae'r adran yn y Ffowndri Gyfrifiadol, cyfleuster ymchwil o safon fyd-eang sy'n cynnwys labordai dynodedig ar gyfer astudio roboteg, AI, saernïo a defnyddioldeb.
Llwybr Gyrfa Academaidd
Mae'r swydd hon ar lwybr Ymchwil. Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.