Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00448
Math o Gytundeb
Contract anghyfyngedig
Cyflog
£38,205 i £44,263 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Parc Dewi Sant, Caerfyrddin
Dyddiad Cau
28 Awst 2024
Dyddiad Cyfweliad
4 Medi 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae hon yn rôl Barhaol Llawn Amser

Mae'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd yn dod â disgyblaethau iechyd, nyrsio, bydwreigiaeth, osteopatheg, gofal cymdeithasol, polisi cymdeithasol a seicoleg ynghyd. Y Gyfadran yw darparwr mwyaf addysg gofal iechyd yng Nghymru, gan ddarparu amgylchedd cyffrous a deinamig i astudio ynddo ac i feithrin gyrfa academaidd neu broffesiynol. Gydag 20 athro, cenhadaeth y Gyfadran yw cynnal ymchwil ryngwladol o safon uchel sy'n diwallu anghenion pobl yn ne-orllewin Cymru a'r tu hwnt.

Mae'r Adran Nyrsio yn rhan flaengar, ddeinamig ac uchelgeisiol o'r Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Ein nod yw darparu addysg, ymchwil ac arloesedd nyrsio o'r safon uchaf a gydnabyddir yn rhyngwladol ac yn genedlaethol. Mae Adran Nyrsio Prifysgol Abertawe ar y brig yng Nghymru ac yn y 7fed safle yn y DU.

I gyflawni ei huchelgais cynaliadwy o fod ymysg y 30 o brifysgolion gorau yn y DU, mae Prifysgol Abertawe am benodi Darlithydd sy'n rhagori mewn addysgu i'r Adran Nyrsio.  Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gwneud cyfraniad sylweddol at addysgu nyrsio i oedolion yn yr Adran, yn ogystal â chyfrannu at addysgu a goruchwylio israddedig ac ôl-raddedig ar draws yr Ysgol. Yn ogystal â rhannu cyfrifoldebau gweinyddol, sefydliadol ac academaidd, bydd disgwyl i'r unigolyn a benodir hefyd weithio'n agos gyda chydweithwyr clinigol mewn Byrddau Iechyd Lleol i gefnogi myfyrwyr yn ystod profiadau dysgu clinigol.

Bydd gwaith deiliad y swydd yn ymwneud yn bennaf â myfyrwyr sy'n ymgymryd â'r rhaglen nyrsio cyn-gofrestru, a bydd yn cynnwys cyfrannu at addysgu ar gyfer myfyrwyr nyrsio oedolion, plant ac iechyd meddwl. Rhagwelir hefyd y bydd angen rhoi mewnbwn i gwricwla ôl-gofrestru a datblygu’r cwricwla presennol ym maes iechyd nyrsio yn yr Adran Nyrsio a'r tu allan iddi.

Mae manylion pellach am yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Adran Nyrsio ar gael ar y wefan ganlynol: https://www.swansea.ac.uk/cy/gyrfaoedd-gig/nyrs/

Llwybr Gyrfa Academaidd

Mae'r swydd hon ar lwybr Addysgu ac Ysgolheictod. Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.

 

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Mae dynion wedi'u tangynrychioli yn y maes academaidd hwn, felly byddem yn croesawu ceisiadau am y swydd hon gan ddynion yn benodol. Hefyd, mae unigolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig wedi'u tangynrychioli a byddem yn annog ceisiadau gan y grwpiau hyn. Penodir ar sail teilyngdod bob amser

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Bydd yn rhaid darparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau

Rhannu

Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr