- Rhif y Swydd
- SU00459
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £38,205 i £44,263 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Gwasanaethau Digidol
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 22 Awst 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 9 Medi 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Mike Tappern m.j.tappern@swansea.ac.uk
- Julie Walters j.a.walters@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Swydd am gyfnod penodol yw hon tan fis Mai 2025, amser llawn.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i weithio ar brosiectau digidol gan ddarparu newid go iawn. Gan weithio mewn tîm cefnogol iawn sydd i gyd yn rhannu angerdd am wneud y peth iawn, bydd yr ymgeisydd delfrydol yn meddu ar agwedd gadarnhaol ac angerdd am gydweithredu a darparu gwasanaethau digidol. Bydd cyfleoedd i weithio gyda llawer o bobl ysbrydoledig ar sawl prosiect i wella addysgu ac ymchwil yn y Brifysgol.Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos ei brofiad o gyflawni prosiect mewn amgylchedd digidol.Rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu dod â’i brofiad a’i sgiliau, a chymhwyso ei syniadau i'r rôl.Rydym yn agored i dechnegau ac offer newydd ac mae lle i arbrofi.Mae'r rôl yn cynnig gweithio hyblyg, gan ddarparu a hyrwyddo buddion cydbwysedd bywyd a gwaith go iawn.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Dylai eich llythyr eglurhaol esbonio sut mae eich sgiliau a'ch profiad yn arddangos eich addasrwydd ar gyfer y rôl fel yr amlinellir yn y disgrifiad swydd.