- Rhif y Swydd
- SU00463
- Math o Gytundeb
- Contract anghyfyngedig
- Cyflog
- £45,585 i £54,395 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 11 Awst 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 21 Awst 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Alice Sockett a.c.sockett@swansea.ac.uk
- Rachel Thomas Rachel.a.thomas@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae Prifysgol Abertawe'n chwilio am weithiwr codi arian proffesiynol profiadol a moesegol sydd â'r gallu i arwain tîm dyngarol sy'n tyfu a rheoli a datblygu perthnasoedd yn bersonol â phortffolio o brif noddwyr ac ymddiriedolaethau/sefydliadau elusennol.
Gan weithio'n agos gyda Chyfarwyddwr Cysylltiol Datblygu a Chysylltiadau â Chyn-fyfyrwyr a Phennaeth Datblygu ac Ymgysylltu, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn uchelgeisiol, yn dangos hunangymhelliant ac yn chwaraewr tîm dymunol. Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i gyfleu effaith dyngarwch yn frwdfrydig i ystod o gynulleidfaoedd.
Byddwch yn rheolwr llinell cefnogol sy'n grymuso ac yn arwain drwy esiampl, ac yn helpu cynnal ein diwylliant tîm o uniondeb, bod yn gadarnhaol a charedigrwydd.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.