- Rhif y Swydd
- SU00472
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £32,982 i £37,099 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 18 Awst 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 28 Awst 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
- Alison Perry a.perry@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae hon yn rôl cyfnod penodol rhwng 23/09/24 a 11/04/2025
Prif ddiben y rôl yw cynorthwyo gyda chyflwyno addysgu ac asesu, annog ac ysgogi myfyrwyr, helpu i ddatblygu sgiliau myfyrwyr a chefnogi dysgu myfyrwyr. Bydd gan y Tiwtor: wybodaeth arbenigol yn y Gyfraith, y gallu i addysgu Sgiliau Cyfreithiol, y System Gyfreithiol ac o leiaf un o'r pynciau cyfreithiol sylfaenol, sgiliau rhyngbersonol ardderchog, sgiliau cyfathrebu ardderchog, ac ymrwymiad i wella sgiliau a phrofiad y myfyrwyr.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cefnogi uchelgais yr Ysgol i ddarparu addysg sy'n galluogi myfyrwyr a staff i feithrin y sgiliau a'r profiadau sy'n angenrheidiol er mwyn deall y tirlun cyfreithiol sy'n newid a mynd i'r afael â heriau cyfoes.
Dibenion allweddol y swyddi hyn yw:
Cyfrannu at addysgu modiwlau'r Ysgol.
Cyfrannu at gymorth myfyrwyr a gwella profiad myfyrwyr yn yr Ysgol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.