Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00478
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£38,205 i £44,263 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
25 Awst 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Bydd y prosiect hwn yn cyfuno ymagweddau damcaniaethol, dadansoddol ac arbrofol i ganfod a yw bio-olosg sydd wedi cael ei newid gan ddefnyddio haearn ocsid o wastraff gweithgynhyrchu dur yn cynnig ateb dichonadwy a chynaliadwy i waredu nanoblastigion a microblastigion o ddŵr.

  • Yn y labordy, cynhelir ymchwil i ddefnyddio bio-olosg i waredu nanoblastigion a microblastigion gan ddefnyddio arbrofion llwythi a cholofn (dull cyffredin o astudio'r gyfradd gadw mewn cyfryngau dirlawn/mandyllog) a defnyddio amodau amgylcheddol i ddynwared amodau dyfroedd afonydd yn y DU.
  • Caiff bio-olosg ei newid gan ddefnyddio gwastraff o'r diwydiant dur, yn benodol haearn ocsid o Waith Dur Tata Steel ym Mhort Talbot, drwy ddwy broses (cyd-ddyddodiad a melin bêl). Mae'r prosesau hyn, a gynhelir yn y labordy, yn peri i'r bio-olosg gael ei wefru'n fwy positif wrth i atyniad electrostatig y nanoblastigion a'r microblastigion gynyddu ac maent yn gwneud arwyneb y bio-olosg yn fwy garw i wella ei allu i ddal y nanoblastigion a'r microblastigion.
  • Caiff nanoblastigion a microblastigion eu dal mewn ffynonellau dŵr lleol (afon Ogwr ac i lawr yr afon o waith trin dŵr gwastraff Ogwr yn ne Cymru) a'u nodweddu i astudio sut cânt eu gwaredu gan ddefnyddio bio-olosg wedi'i newid a dŵr naturiol fel cyfrwng. Ymchwilir i siâp, maint a chyfansoddiad cemegol y plastigion ynghyd â hyd y diraddiad amgylcheddol, i sicrhau cynrychiolaeth gywir a bod y bio-olosg addasedig yn effeithiol wrth eu hadfer.

Ymchwilir i ddefnyddio prosesau ynni isel ac effeithlon i gynhyrchu bio-losg, gyda'r nod hirdymor o adfywio. Yn benodol, byddwn yn defnyddio arbelydru isgoch agos, uwchfioled a microdonnau. Yma, defnyddir y technegau cynhesu hyn i baratoi'r bio-olosg i gyrraedd tymheredd ar gyfer ei adfywio mewn cyfnod byrrach gan ddefnyddio llai o ynni na dulliau pyrolysis traddodiadol sy'n defnyddio llawer o ynni ac sy'n ddrud. Bydd tasg ar wahân yn profi ail-ddefnyddio ac ailgylchu'r bio-olosg a gynhyrchir (ac sydd wedi cael ei ddiwygio) gan ddefnyddio technegau adfywio electromagnetig, gwahanu ar sail dwysedd ac adfywio thermol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Rhannu

Lawrlwytho FSE-Candidate-Brochure-(CY).pdf Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr