- Rhif y Swydd
- SU00482
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £38,205 i £44,263 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 16 Awst 2024
- Interview Dates
- 29 Awst 2024 - 5 Medi 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
- Danielle Rawlings d.l.rawlings@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae'r gyfarwyddiaeth Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol yn recriwtio Uwch-Swyddog Prosiect i gyflawni prosiectau allweddol mewn cysylltiad â'i gweithgarwch marchnata, recriwtio, derbyn myfyrwyr a materion rhyngwladol.
Mae'r gyfarwyddiaeth Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol (MRI) yn dîm perfformiad uchel sy'n gyfrifol am farchnata, recriwtio myfyrwyr a derbyn myfyrwyr.
Mae'r farchnad recriwtio myfyrwyr yn amgylchedd cystadleuol sy'n datblygu'n gyflym ac rydym yn chwilio am Uwch-swyddog Prosiect sy'n gallu cyflawni prosiectau allweddol ar gyfer y gyfarwyddiaeth i gyflenwi yn ystod cyfnod mamolaeth.
Gan weithio'n agos gyda Chyfarwyddwr Cysylltiol Marchnata a Recriwtio Myfyrwyr o'r DU, ynghyd â chydweithwyr ar draws y Brifysgol, bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gyflawni portffolio o brosiectau, gan ganolbwyntio ar recriwtio myfyrwyr o'r DU, gan gynnwys ymgyrch Clirio'r Brifysgol.
Disgwylir i'r Uwch-swyddog Prosiect fynd ati'n weithredol i gydweithredu ag amrywiaeth o randdeiliaid a meithrin y perthnasoedd hyn, gan gynnwys timau gwasanaethau proffesiynol, staff academaidd a'r Uwch-dim Arweinyddiaeth. Dylai ymgeiswyr ddangos hunangymhelliant, gyda sgiliau trefnu, cynllunio, rhyngweithio â phobl a chyfathrebu ardderchog.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Swydd am gyfnod penodol yw hon i gyflenwi yn ystod cyfnod o absenoldeb mamolaeth.