Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00491
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£38,205 i £44,263 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Lleoliad
Campws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
27 Awst 2024
Dyddiad Cyfweliad
16 Medi 2024
Ymholiadau Anffurfiol
Xianghua Xie x.xie@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae'n bleser gennym i hysbysebu am swydd ymchwilydd ôl-ddoethurol i fod yn rhan o hwb National EdgeAI ar y cyd ag Ysgol Gyfrifiadura Prifysgol Newcastle.   Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gyda'r AthroXianghua Xie o'r grŵp Gweledigaeth Gyfrifiadurol a Dysgu Peirianyddol (http://csvision.swan.ac.uk) ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn cydweithio ag ymchwilwyr ar draws Hwb National EdgeAI ar amryw safle. Bydd yr ymchwilydd yn gweithio ar greu dulliau dysgu peirianyddol wedi'u datganoli, cadarn a newydd sy'n addas ar gyfer dyfeisiau ymyl (edge) a'u cymwysiadau, er enghraifft mewn gofal iechyd a roboteg. Ein prif ffocws yw datblygu dulliau dysgu peirianyddol newydd a ysgogir gan ddata y gellir eu defnyddio'n ddiogel ar setiau data cymhleth, sy'n aml yn cael eu dosbarthu neu eu cyfuno ac mae ganddynt eu gofynion eu hunain o ran preifatrwydd data. Gan adeiladu ar ein cryfder a'n profiad, bydd tîm Abertawe'n mynd i'r afael â'r heriau allweddol o ddatganoli AI yn yr oes cyfrifiadura ymyl (edge) ac ar gyfer y genhedlaeth nesaf o rwydweithiau ymyl (edge). Mae ein prif agenda ymchwil yn cynnwys: (1) datblygu algorithmau sy'n cynnal preifatrwydd cadarn ar gyfer dysgu gwasgaredig; (2) optimeiddio dysgu peirianyddol gwasgaredig o ddata heterogenaidd ac anghyflawn; a (3) dysgu parhaus a throsglwyddadwy effeithlon gyda setiau data wedi'u datganoli Bydd deiliad y swydd yn cynnal gwaith ymchwil, gweithredu ac arbrofi ar fodelau dysgu peirianyddol uwch a dulliau cyfrifiadura ymyl (edge) yn y meysydd hyn.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Rhannu

Lawrlwytho Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Pecyn Ymgeisydd Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr