Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00497
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£32,982 i £37,099 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Lleoliad
Campws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
16 Medi 2024
Dyddiad Cyfweliad
24 Medi 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Ariennir gan OFWAT dan Ffrwd Catalydd: Water Breakthrough Challenge 4. Rydym yn chwlio am Gynorthwy-ydd Ymchwil (am gyfnod o 12 mis) i gynnal ymchwil rhwng Prifysgol Abertawe a’r diwydiant dŵr a arweinir gan Dŵr Cymru. Bydd y bartneriaeth yn datblygu technolegau ar gyfer adfywio carbon actifedig gronynnog (GAC) yn lleol ac mae'n cynnwys Anglian Water, Affinity Water, Industrie DeNora, Panton McLeod, Severn Trent Water, Prifysgol Abertawe, Uisce Éireann, United Utilities a Dŵr Cymru. Defnyddir technegau adfywio GAC yn thermol yn gyffredin ond mae'n broses ddrud sy'n defnyddio llawer o garbon. Bydd y prosiect hwn yn archwilio technegau adfywio lleol gwahanol gan ystyried effeithiolrwydd, cost ac ôl troed carbon a chymharu hyn ag adfywio thermol.

Mae prif dasgau penodol y swydd yn cynnwys:

  • Cyflawni cyfres helaeth o brofion arbrofol ar adfywio carbon actifedig gronynnog (GAC), a ddefnyddir i drin dŵr, yn gemegol.
  • Gwerthuso priodweddau ffisegol a chemegol GAC sydd wedi cael eu trin ac sydd heb gael eu trin (cynhwysedd, FTIR, BET, SEM, etc.).
  • Cynnal dadansoddiadau data, deall effaith dulliau adfywio cemegol amrywiol ar briodweddau GAC, a phenderfynu beth yw'r dull adfywio gorau.
  • Yn seiliedig ar asesu cylch oes, canfod cost bosib ac arbedion ôl troed carbon adfywio GAC lleol.
  • Ymgysylltu'n effeithiol â'r holl bartneriaid sy'n gweithio ar y prosiect hwn ac adrodd i'r cydweithredwyr academaidd a diwydiannol am ganfyddiadau'n rheolaidd.
  • Cynnal adolygiad llenyddiaeth a llunio papurau academaidd i'w cyhoeddi mewn cyfnodolion effaith uchel arbenigol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Mae menywod wedi’u tangynrychioli yn y byd academaidd a byddem yn croesawu ceisiadau gan fenywod yn benodol ar gyfer y swydd hon. Hefyd mae unigolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig wedi’u tangynrychioli a byddem yn annog ceisiadau gan y grwpiau hyn.Penodir ar sail teilyngdod bob amser. 

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Llyfryn Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr