Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00507
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£32,982 i £37,099 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
30 Medi 2024
Dyddiad Cyfweliad
18 Hyd 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae'r Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Abertawe am benodi tiwtor i wasanaethu fel Cyfarwyddwr Dros Dro Rhaglen Blwyddyn Sylfaen y Dyniaethau tra bo Cyfarwyddwr presennol y Rhaglen (Dr Ryan Sweet) ar absenoldeb ymchwil. Mae'r rôl yn cynnwys cyfrifoldebau arwain, gweinyddu a bugeiliol, ac ymrwymiad i fentrau recriwtio myfyrwyr (gan gynnwys staffio Diwrnodau Agored).

Mae cyfrifoldebau allweddol eraill ar gyfer y rôl hon yn cynnwys cydlynu, addysgu a marcio ar gyfer y modiwl Blwyddyn Sylfaen FY-106 Traethawd Ymchwil sy'n orfodol ac yn drawsddisgyblaethol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn cyfrannu at addysgu a marcio ar gyfer y modiwl Blwyddyn Sylfaen FY-014 Myfyrio Beirniadol a Datrys Problemau sydd hefyd yn orfodol ac yn drawsddisgyblaethol.

Rydym yn chwilio am chwaraewr tîm sy’n gallu ysbrydoli eraill ac a all gyfrannu at uchelgeisiau'r Brifysgol a'r Ysgol i fod ar flaen y gad ym maes dysgu â chymorth digidol gan helpu i wella cofnod ardderchog yr Ysgol o ran profiad y myfyrwyr. Cynhaliwyd Blwyddyn Sylfaen y Dyniaethau yn Abertawe ers 2018 ac mae'n rhan ganolog o'r strategaeth dwf barhaus. Mae aelodau tîm addysgu'r Flwyddyn Sylfaen yn gyfranogwyr llawn a gweithgar yng nghymuned academaidd ac ymchwil fywiog ein Hysgol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Dyma swydd am gyfnod penodol o 06/01/2025 hyd at 06/06/2025.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llyfryn yr Ymgeisydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr