Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00517
Math o Gytundeb
Contract anghyfyngedig
Cyflog
£45,585 i £54,395 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
6 Hyd 2024
Dyddiad Cyfweliad
18 Hyd 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae hon yn swydd barhaol gan weithio 21 awr yr wythnos.

Mae'r rhaglen Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy yn chwilio am Uwch-ddarlithydd i sicrhau bod addysgu arbenigol yn cael ei gyflwyno'n esmwyth ar y cwrs hynod lwyddiannus hwn. Mae hon yn swydd ran-amser barhaol (2 ddiwrnod yr wythnos) ac rydym yn recriwtio o blith ystod o weithwyr proffesiynol sy'n meddu ar brofiad blaenorol o weithio yn yr amgylchedd Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy.

Cynlluniwyd y rhaglen astudio Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy ym Mhrifysgol Abertawe ar Gampws Parc Singleton ar gyfer y rhai sy'n dymuno bod yn Weithwyr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy. Mae'n Dystysgrif Ôl-raddedig ar lefel gradd Meistr sy'n werth 60 o gredydau sydd wedi'i ddylunio i fodloni 'Galluoedd Allweddol' gofynnol Llywodraeth Cymru a'r Sgiliau Allweddol mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn ystyried eu bod yn berthnasol ar gyfer y rôl. Cyflwynwyd y rhaglen i ymateb i'r rolau a chyfrifoldebau newydd a gyflwynwyd yn y Ddeddf Iechyd Meddwl ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gydag unigolion sy'n cael eu hystyried ar gyfer derbyniad gorfodol i’r ysbyty a/neu driniaeth a gofal ar ôl bod yn yr ysbyty neu sy’n destun y gweithredu hwnnw.

Mae gan yr adran ystod o raglenni israddedig ac ôl-raddedig proffesiynol, gan gynnwys y BSc mewn Gwaith Cymdeithasol a’r BSc mewn Polisi Cymdeithasol. Mae gan yr adran lawer o raglenni gradd ôl-raddedig, gan gynnwys MSc mewn Gwaith Cymdeithasol. Mae'r rhaglen Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy wedi'i chysylltu'n agos â'r tîm gwaith cymdeithasol. Mae rhaglenni gradd gwaith cymdeithasol yn Abertawe yn uchel eu parch ac, ar hyn o bryd, maent ymhlith y rhai gorau o‘u bath yn y DU. Mae gennym gysylltiadau cryf â phrifysgolion dramor, yn enwedig Prifysgol Houston. Mae gan yr adran ddiwylliant ymchwil bywiog, a nifer sylweddol o fyfyrwyr PhD. Mae'r swydd hefyd yn gofyn am ddarparu gweithgarwch dysgu myfyrwyr ac addysgu o ansawdd uchel, ac ymrwymiad i wella profiad myfyrwyr yn gyffredinol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ochr yn ochr â chyd-gyfarwyddwr arall a'r Bwrdd Partneriaethau o 16 o Awdurdodau Lleol yng Nghymru i sicrhau bod cyfeiriad strategol a dull cyflwyno'r rhaglen yn bodloni'r gofynion a bennwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru. Hefyd, bydd gofyniad i ddeiliad y swydd weithio gyda swyddog y rhaglen ar nifer o faterion allweddol â'r nod o sicrhau bod y rhaglen yn bodloni nodau'r cwrs. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cyfle i ddatblygu'n academaidd ac yn broffesiynol.

Llwybr Gyrfa Academaidd

Mae'r swydd hon ar lwybr Addysgu ac Ysgolheictod. Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Mae dynion wedi'u tangynrychioli yn y maes academaidd hwn, felly byddem yn croesawu ceisiadau am y swydd hon gan ddynion yn benodol.  Hefyd, mae unigolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig wedi'u tangynrychioli a byddem yn annog ceisiadau gan y grwpiau hyn. Penodir ar sail teilyngdod bob tro.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Bydd angen darparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau

Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr