Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00524
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£38,205 i £44,263 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Bywyd Myfyriwr
Lleoliad
Arall - Gweler y disgrifiad swydd
Dyddiad Cau
22 Medi 2024
Dyddiad Cyfweliad
3 Hyd 2024
Ymholiadau Anffurfiol
Lucy Griffiths Lucy.j.griffiths@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Ariennir prosiect TESS yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru i gefnogi nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015. Nod y prosiect yw cyfrannu at y nodau hyn drwy gefnogi myfyrwyr sydd wedi'u tangynrychioli/dan anfantais i ddatblygu hyder gyrfa, sgiliau cyflogadwyedd ac ymgysylltu â chyflogwyr. Bydd yr Ymgynghorydd yn cynorthwyo cydweithwyr i gyflwyno prosiect TESS yn llwyddiannus ym Mhrifysgol Abertawe, a elwir yn Hwb Gyrfaoedd, yn unol â'r Cynllun Cyflawni y cytunwyd arno gyda Medr (Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil) ynghyd â dau Ymgynghorydd Lleoliadau Gwaith ac Arweiniad ar Gyflogadwyedd a Dargedir arall.


Byddwch yn atebol i'r Uwch-ymgynghorydd Lleoliadau Gwaith ac Arweiniad ar Gyflogadwyedd a Dargedir, hefyd yn gweithio'n agos gydag arweinwyr timau gwasanaeth eraill a phennaeth ACA. Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a chymwys i weithio gyda chydweithwyr yn ACA, REIS, Cyfadrannau ac Asiantau Rheoli’r Prosiectau (Medr) a thimau sefydliadau addysg uwch eraill yng Nghymru i gefnogi myfyrwyr sy’n wynebu rhwystrau i recriwtio i gael canlyniadau llwyddiannus ar ôl graddio.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Bydd angen darparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau

Lawrlwytho Llyfryn yr Ymgeisydd Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr