Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00529
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£38,205 i £38,205 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Lleoliad
Campws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
24 Medi 2024
Dyddiad Cyfweliad
1 Hyd 2024
Ymholiadau Anffurfiol
Matthew Davies m.l.davies@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Ymunwch â'r Grŵp Ffotogemeg Gymhwysol ac Economi Gylchol deinamig a arweinir gan yr Athro Matthew Davies, yn yr Adran Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg nodedig ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ein tîm yn ymroddedig i wella cynaliadwyedd technolegau ynni, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddulliau arloesol ar gyfer ailgylchu ac adfer deunyddiau hanfodol o gynnyrch ynni adnewyddadwy diwedd oes, megis paneli solar ffotofoltäig.

Rydym yn chwilio am arbenigwr medrus iawn mewn cemeg sol-gel, yn arbennig ym maes datblygu a phrosesu ocsidau metel. Bydd gan yr ymgeisydd  delfrydol wybodaeth arbenigol ym maes Sintro Is-goch Agos (NIR) a chefndir cadarn mewn prosesu tymheredd tra uchel. Fel aelod allweddol o'n tîm, byddwch yn dod yn arbenigwr y grŵp mewn technegau prosesu NIR, gan ddarparu hyfforddiant a chymorth i ddefnyddwyr newydd a chan sicrhau eu bod yn gallu rhoi'r dulliau arloesol hyn ar waith yn effeithiol.

Yn ogystal ag arbenigedd technegol, mae'r rôl hon yn cynnwys rheoli cydweithrediadau sydd ar waith ar y cyd â Phrifysgol Birmingham a llywio gwaith i ddatblygu partneriaethau newydd, yn enwedig ym maes caenau ceramig ar gyfer cymwysiadau ynni. Bydd eich gwaith yn cyfrannu at ddatblygu dulliau ailgylchu ac adfer ar gyfer y caenau hyn, gan helpu i wthio ffiniau technolegau ynni cynaliadwy.

Mae'r swydd yn cynnig cyfle unigryw i arwain grŵp ymchwil blaengar, cyfrannu at brosiectau effaith uchel a chwarae rôl bwysig wrth lywio dyfodol cynaliadwyedd ynni.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Mae menywod wedi’u tangynrychioli yn y byd ymchwil a byddem yn croesawu ceisiadau gan fenywod yn benodol ar gyfer y swydd hon. Hefyd mae unigolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig wedi’u tangynrychioli a byddem yn annog ceisiadau gan y grwpiau hyn.Penodir ar sail teilyngdod bob amser. 

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho FSE-Candidate-Brochure-(CY).pdf Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr