- Rhif y Swydd
- SU00533
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £28,759 i £32,332 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 22 Medi 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 3 Hyd 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Emma Roberts e.j.roberts@swansea.ac.uk
- Nikola Griffiths n.aston@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Bydd y Cydlynydd Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr yn gweithio yn y Gyfadran Addysg a'r Tîm Profiad Myfyrwyr mewn partneriaeth â staff academaidd i gyflawni'r lefelau uchaf o ragoriaeth mewn cymorth proffesiynol
Mae deiliad y swydd yn gyfrifol am sicrhau ei fod yn gweithio'n unol â holl bolisïau a gweithdrefnau'r Brifysgol a'i fframweithiau llywodraethu a chyfansoddiadol, gan geisio arweiniad gan arweinwyr tîm/rheolwyr pan fo'n briodol.
Mae deiliad y swydd yn gyfrifol am sicrhau ei fod yn gweithio'n unol â holl bolisïau a gweithdrefnau'r Brifysgol a'i fframweithiau llywodraethu a chyfansoddiadol, gan geisio arweiniad gan arweinwyr tîm/rheolwyr pan fo'n briodol.
Bydd y swydd hon yn addas ar gyfer ymgeiswyr sydd â brwdfrydedd am ddarparu gwasanaeth gwybodaeth, cymorth a chyfranogi uchel ei barch sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau myfyrwyr drwy gydol eu taith ym Mhrifysgol Abertawe yn y Gyfadran.
Mae'r gwasanaeth hwn yn ymateb i ymholiadau myfyrwyr, ac mae'n rhagweithiol er mwyn darparu gwybodaeth drwy gydol y flwyddyn academaidd. Rhaid bod cyngor yn gywir iawn felly mae deall rheolau, canllawiau a phrosesau academaidd yn bwysig. Mae sensitifrwydd, empathi, dealltwriaeth o anghenion amrywiol myfyrwyr a sgiliau cyfathrebu cryf a dealltwriaeth glir o ffiniau proffesiynol, yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Galai'r rôl hon gynnwys datblygu gwybodaeth arbenigol am faes rhaglen penodol yn y Gyfadran.
Bydd cydweithwyr Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr mewn rolau blaen y tŷ/yn y dderbynfa, a disgwylir iddynt weithio mewn swyddfeydd a derbynfeydd lle bydd cyswllt â myfyrwyr, yn ogystal â darparu cymorth a gwybodaeth ar-lein, drwy e-bost a thros y ffôn/drwy sgwrsio.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.