Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00544
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£25,138 i £27,979 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
16 Hyd 2024
Dyddiad Cyfweliad
25 Hyd 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae hon yn swydd am gyfnod penodol o 12 mis, gan weithio 28 awr yr wythnos.

Mae'r Grŵp Cofrestrau Clefydau (DRG) yn rhan o’r adran Gwyddor Data Poblogaethau yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Mae'r DRG yn cynnal ac yn gweithredu sawl cofrestr clefydau cronig. Mae'r grŵp yn gweithio gyda sefydliadau gan gynnwys y GIG, Prifysgolion eraill, elusennau ymchwil feddygol, y diwydiant fferyllol ac yn uniongyrchol gyda phobl yr effeithir arnynt gan y clefydau. Mae gan y DRG enw da am gyflwyno prosiectau cymhleth gydag ystod eang o randdeiliaid ac ar eu cyfer.

Mae gan y DRG frîff i ddylunio, datblygu, gweithredu a chynnal cofrestrau clefydau cronig sy'n casglu gwybodaeth a data clinigol yn uniongyrchol gan bobl yr effeithiwyd arnynt gan y clefyd.  Yna bydd y data'n cael ei gysylltu a'i osod mewn amgylchedd ymchwil dibynadwy lle gellir ei wirio, yn amodol ar lywodraethu addas gan ymchwilwyr achrededig.

Mae'r DRG yn cynnal mynediad a llwybrau dadansoddi ar gyfer yr amgylchoedd hyn ac felly'n treulio llawer o amser gyda rhanddeiliaid, yn cynnal meddalwedd, integriadau ac offer dadansoddi.

Diben y rôl yw cynorthwyo tîm DRG i reoli agweddau gweinyddol ar weithgareddau beunyddiol yn effeithiol. Bydd deiliad y swydd yn cynnal, yn rheoli ac yn hwyluso amrywiaeth o grwpiau DRG amrywiol. Trefnu a gweinyddu gweithgareddau megis cymorth i ddefnyddwyr, sesiynau cyfleu gwybodaeth a rhoi cymorth gweinyddol ar draws y DRG.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi tystiolaeth yn eich CV a'ch llythyr eglurhaol o ran sut rydych yn bodloni'r meini prawf hanfodol a dymunol.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr