- Rhif y Swydd
- SU00554
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £32,982 i £37,099 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 13 Hyd 2024
- Interview Dates
- 21 Hyd 2024 - 22 Hyd 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Dr Sumati Bhatia sumati.bhatia@swansea.ac.uk
- Dr Debdulal Roy deb.roy@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Dyma gyfle cyffrous i ymchwilydd brwdfrydig ym maes cynhyrchu glycosystemau at ddiben targedu pathogenau. Ariennir y prosiect gan Sefydliad Gwyddoniaeth yr Almaen a bydd yr ymchwilydd yn gweithio i ddatblygu'r systemau hyn drwy glycocyfieuo ar arwynebau nanoronynnau gan arwain, yn y pen draw, at ficrostrwythurau elastig. Nod cyffredinol y prosiect yw datblygu glycosystemau pwrpasol â phriodweddau bacteriostatig a bacterioleiddiol.
Mae'r rôl hon yn y prosiect yn gofyn am gymysgedd o syntheseiddio organig, nanoronynnau, mesuriadau bioffisegol a sgrinio rhagbaratoawl yn y labordai bioleg. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â grŵp amlddisgyblaethol yn yr adran Gemeg. Bydd yr ymchwilydd yn datblygu glycostrwythurau a deunyddiau rheoli amrywiol, ac yn eu nodweddu'n llawn ar gyfer profion biolegol yn erbyn bacteria. Yn olaf, bydd yn dehongli canlyniadau ac yn eu paratoi i'w cyfleu mewn cyhoeddiad.
Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar radd mewn Cemeg a dealltwriaeth dda iawn o synthesis organig a glycoaddasiadau. Mae profiad o syntheseiddio polymerau a nanoronynnau yn fantais. Mae croeso i ymgeiswyr ag MSc neu PhD gyflwyno cais.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Mae menywod a chydweithwyr o leiafrifoedd ethnig wedi'u tangynrychioli yn y byd academaidd a byddem yn annog ceisiadau gan y grwpiau hyn yn benodol. Penodir ar sail teilyngdod bob tro.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.