- Rhif y Swydd
- SU00563
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £22,277 i £22,277 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Campws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 10 Hyd 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 14 Hyd 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
- Dr Gary KL Tam k.l.tam@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae'r interniaeth yn canolbwyntio ar gefnogi datblygiad offer meddalwedd er mwyn dadansoddi rhuglder y Gymraeg. Bydd yr intern yn dechrau drwy ymgyfarwyddo â setiau data 4D Cymru, gan ddysgu am ei strwythur a chynorthwyo wrth ei ehangu drwy ddilyn dulliau casglu data sefydledig.
Bydd yr intern yn helpu i gasglu data 4D (gan ddal gwybodaeth ofodol ac amserol) a recordiadau sain gan gyfranogwyr mewn astudiaeth defnyddwyr, gan ddefnyddio ein system camera 3dMD. Mae hyn yn cynnwys gosod cyfarpar, gan sicrhau ei fod yn casglu data'n gywir, esbonio cefndir y prosiect i gyfranogwyr a chydlynu slotiau amser er mwyn casglu data.
Ar ôl casglu'r data, bydd yr intern yn cynorthwyo i lanhau, anodi a threfnu'r data gan ddefnyddio dulliau prosesu sylfaenol i'w baratoi am ddadansoddi ymhellach. Bydd hefyd yn cyfrannu at ddatblygu offer meddalwedd, gan gynnwys prototeip ap ffôn clyfar a ddyluniwyd i gasglu, cymharu a dadansoddi rhuglder y Gymraeg o sain siarad.
Bydd yr intern yn cael y cyfle i weithio gydag offer a llyfrgelloedd dysgu dwfn, gan gymhwyso dulliau dysgu gan ddefnyddio modelau AI sydd wedi dysgu o swm bach o ddata o dan oruchwyliaeth, gyda ffocws ar godio a gweithredu yn hytrach na datblygu algorithm.
Mae adrodd am gynnydd yn rheolaidd i oruchwylwyr a chydweithio â'r tîm yn agweddau hanfodol ar y rôl. Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle unigryw i ddatblygu sgiliau meddalwedd ac ennill profiad wrth drin data, mewn amgylchedd deinamig a chefnogol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.