Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00565
Math o Gytundeb
Contract anghyfyngedig
Cyflog
£32,982 i £37,099 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
22 Hyd 2024
Dyddiad Cyfweliad
6 Tach 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Dyma swydd barhaol sy'n gweithio ar sail amser llawn ac mae'n ofynnol i ddeiliad y swydd fod yn rhugl yn y Gymraeg.

Mae Tîm y We Prifysgol Abertawe yn chwilio am Swyddog Marchnata (Cymraeg) deinamig a rhagweithiol i gefnogi amrywiaeth o dasgau digidol a rheoli cynnwys. Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle unigryw i weithio'n agos gyda golygyddion gwe, crewyr cynnwys, a datblygwyr gwe i wella defnyddioldeb a sicrhau profiad o ansawdd uchel i ddefnyddwyr ar draws ein platfformau ar-lein.

Byddwch yn gyfrifol am oruchwylio cynnwys cyfrwng Cymraeg, gan ddatrys problemau technegol sy'n gysylltiedig â chynnwys a chefnogi golygyddion gwe ar draws y Brifysgol. Bydd eich rôl yn cynnwys gwneud y gorau o wefan y Brifysgol a'i rheoli, er mwyn cynnal presenoldeb cryf yn y Gymraeg, sy'n cyd-fynd â'n nodau strategol. Yn ogystal, bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd hon arwain, hyfforddi ac addysgu staff ar draws y Brifysgol ar arferion gorau ynghylch datblygu’r we a’i chynnwys.

Byddwch yn cydweithio'n agos â'n Datblygwyr Gwe Cefn a Blaen, arbenigwyr UX, a thimau marchnata i weithredu ymgyrchoedd, ysgogi ymgysylltiad digidol, a chefnogi datblygiad parhaus ein presenoldeb ar-lein. Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth wella ôl troed digidol Cymraeg y Brifysgol drwy greu deunyddiau gafaelgar sy'n cydweddu ag optimeiddio peiriannau chwilio, sy'n diwallu anghenion cynulleidfaoedd amrywiol, gan gynnwys darpar fyfyrwyr, partneriaid a rhanddeiliaid.

Mae'r rôl hon yn cyfuno arbenigedd marchnata â chyfrifoldebau rheoli gwe, sy'n gofyn am sgiliau trefnu rhagorol, sylw i fanylion, a'r gallu i ddatrys problemau'n gyflym. Dylech fod yn gyfforddus yn datrys problemau technegol sy'n gysylltiedig â chynnwys, rheoli platfformau digidol, a sicrhau profiad hwylus i ddefnyddwyr.

Ar gyfer y swydd hon, mae'n hanfodol bod yn rhugl yn y Gymraeg a meddu ar brofiad o systemau rheoli cynnwys (CMS).

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 3 - Rhugl. Bydd deiliad y swydd yn gallu cynnal sgwrs rugl yn y Gymraeg ar fater sy'n gysylltiedig â gwaith ac ysgrifennu deunydd Cymraeg gwreiddiol yn hyderus.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

I gyflwyno cais am y swydd hon, mae angen i chi ddarparu CV a llythyr eglurhaol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn esbonio sut rydych yn bodloni'r fanyleb person fel y'i nodir yn y disgrifiad swydd drwy amlygu eich cymwysterau, eich sgiliau a'ch profiad perthnasol mewn llythyr eglurhaol.

Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr