Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00574
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£33,882 i £37,999 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Gwasanaethau Addysg
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
31 Hyd 2024
Dyddiad Cyfweliad
11 Tach 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Bydd y Swyddog Cofnodion Academaidd ac Asesu yn aelod o'r tîm Systemau Data Academaidd sy'n gyfrifol am reoli a chynnal cofnodion myfyrwyr, systemau a data cysylltiedig, a datblygu a gwella datrysiadau a systemau cofnodion myfyrwyr i ddiwallu anghenion strategol a gweithredol y sefydliad.

Bydd y Swyddog Cofnodion Academaidd ac Asesu yn cefnogi'r Uwch-swyddog Cofnodion Academaidd ac Asesu sy'n gyfrifol yn bennaf am reoli a chynnal System Asesu Myfyrwyr SITS y Brifysgol, gan sicrhau bod yr holl ddata, rheoliadau a phrosesau asesu yn addas at y diben, yn cydymffurfio â gofynion mewnol ac allanol a'u bod yn cyflawni'r allbynnau gofynnol yn unol ag amserlen heriol ac ar draws sawl cyfnod asesu amrywiol.

Bydd y tîm a deiliad y swydd yn cefnogi amcanion profiad myfyrwyr strategol y Brifysgol ac yn greiddiol i gefnogi gwaith uwch-arweinwyr y Gyfadran a'u timau a chefnogi'r Gwasanaethau Addysg ac uwch-gydweithwyr yn nhimau mewnol unedau proffesiynol eraill gyda data cymhleth, systemau ac adrodd. Bydd y swydd hon yn cefnogi datblygu system SITS, yn cefnogi gweithrediadau ac yn sicrhau bod data'n addas at y diben ac yn cydymffurfio â rheoleiddio a pholisi academaidd, gofynion rheoliadol wrth fanteisio i'r eithaf ar brofiad myfyrwyr y Brifysgol hefyd. Ei nod hefyd yw darparu systemau effeithlon i ategu'r amcanion amrywiol ar gyfer portffolio rhaglenni'r Brifysgol. 

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Mae menywod a chydweithwyr lleiafrifoedd ethnig wedi'u tangynrychioli yn y byd academaidd a byddem yn annog ceisiadau gan y grwpiau hyn yn benodol. Penodir ar sail teilyngdod bob tro.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad swydd Lawrlwytho Llyfryn Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr