Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00598
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£39,105 i £45,163 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
4 Tach 2024
Dyddiad Cyfweliad
12 Tach 2024
Ymholiadau Anffurfiol
Dara Almeida Medina Dara.almeidamedina@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Dyma swydd am gyfnod penodol tan fis Tachwedd 2027, gan weithio’n amser llawn.

Rydym yn recriwtio ar gyfer swydd gyffrous yn ein tîm Poblogaeth, Seiciatreg, Hunanladdiad a Gwybodeg (PPSI).  Dyma un rôl ar gyfer naill ai Cynorthwy-ydd Ymchwil (Gradd 7) neu Swyddog Ymchwil (Gradd 8). Mae'r rôl yn cynnig cyfleoedd unigryw i gyfrannu at ymchwil iechyd meddwl sy'n torri tir newydd a arweinir gan yr Athro Ann John, cyd-gyfarwyddwr DATAMIND ac arweinydd y thema Gwyddor Data yng Nghanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc.

Fel Cynorthwy-ydd Ymchwil, byddwch yn gwneud y canlynol:

  • Creu ffenoteipiau iechyd meddwl gan ddefnyddio systemau côd clinigol a thechnegau wedi’u llywio gan ddata
  • Cynnal arolygon i wella platfformau ymchwil iechyd meddwl
  • Cydweithredu i ateb cwestiynau ymchwil gan ddefnyddio cronfeydd data mawr a dulliau dysgu peirianyddol
  • Cynnal dadansoddiadau data cymhleth a chyfrannu at bapurau ymchwil

Mae rôl y Swyddog Ymchwil yn cynnwys:

  • Arwain y gwaith o ddatblygu ffenoteipiau iechyd meddwl ac ymchwil wedi’i llywio gan ddata
  • Llunio a chynnal arolygon i wella isadeiledd ymchwil
  • Arwain prosiectau cydweithredol gan ddefnyddio ymagweddau epidemiolegol a dysgu peirianyddol uwch
  • Cyfrannu at geisiadau am grantiau a rheoli prosiectau

Mae'r swydd hon yn gofyn am fedrusrwydd mewn rhaglennu (Python, R, SQL) a chefndir cadarn mewn epidemioleg neu wyddor data iechyd. Byddwch yn gweithio gydag adnoddau sy'n torri tir newydd megis Banc Data SAIL, gan gyfrannu at ymchwil llawn effaith sy'n llywio polisïau ac ymyriadau iechyd meddwl.

Ymunwch â'n hamgylchedd ymchwil sydd wedi'i ariannu gan £40M, lle bydd gennych gyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau, tyfu eich gyrfa a chyhoeddi mewn cyfnodolion effaith uchel. Bydd eich gwaith yn cyfrannu'n uniongyrchol at drawsnewid ymchwil iechyd meddwl ledled y DU, gan ganolbwyntio ar feysydd hollbwysig megis iechyd meddwl plant a'r glasoed, atal hunanladdiad a defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i wella canlyniadau iechyd.

Os ydych chi'n angerddol am ddefnyddio gwyddor data i ysgogi arloesiadau mewn ymchwil iechyd meddwl, rydym yn eich gwahodd i gyflwyno cais i fod yn rhan o'n tîm trawsnewidiol. 

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Mae dynion wedi'u tangynrychioli yn y maes ymchwil hwn, felly byddem yn croesawu ceisiadau am y swydd hon gan ddynion yn benodol. Hefyd, mae unigolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig wedi'u tangynrychioli a byddem yn annog ceisiadau gan y grwpiau hyn. Penodir ar sail teilyngdod bob tro.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Dylai'r llythyr eglurhaol gynnwys eich rhestr o gyhoeddiadau.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd (Cynorthwy-ydd Ymchwil) Lawrlwytho Disgrifiad Swydd (Swyddog Ymchwil) Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr