Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00646
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£39,105 i £45,163 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Gwasanaethau Addysg
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
19 Ion 2025
Dyddiad Cyfweliad
31 Ion 2025
Ymholiadau Anffurfiol
Jane Lewis Normand j.m.e.lewis-normand@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae'r Gwasanaethau Academaidd i Fyfyrwyr yn elfen gyfansoddol o Gyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Addysg sy'n cynnig gwasanaethau proffesiynol o safon i fyfyrwyr, staff a rhanddeiliaid allweddol ym mhob agwedd sy'n ymwneud â gweinyddiaeth academaidd ar gyfer rhaglenni ymchwil ac a addysgir, gan gynnwys achosion myfyrwyr, cwynion, arholiadau, asesiadau a dilyniant a chynulliadau Graddio a Gwobrwyo.  

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gyflwyno Cynulliadau Graddio a Gwobrwyo o safon ar gyfer y Brifysgol.Byddwch yn llawn brwdfrydedd a gwydnwch, yn mwynhau amgylchedd prysur ac yn meddu ar brofiad o ddefnyddio arloesedd ac atebion creadigol i ddatrys problemau a threfnu a chydlynu prosiectau, digwyddiadau neu brosesau.Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a dylanwadu rhagorol, byddwch yn sefydlu credadwyedd yn gyflym gyda'r staff ar bob lefel, a byddwch yn brofiadol wrth gyflwyno prosesau ac arweiniad yn amserol ac yn effeithiol.  Bydd gennych lygad craff am fanylion a'r gallu i weithio i derfynau amser tynn yn cyflwyno prosiectau mewn amgylchedd sy'n sensitif o ran amser.

Byddwch yn cymryd perchenogaeth ac atebolrwydd am gynulliadau graddio a byddwch yn hyderus wrth gynnal digwyddiadau/prosiectau.   Byddai profiad o reoli tîm cyflawni gweithredol a chyflwyno prosiect/digwyddiad o fewn cyllideb yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol gan y rhoddir hyfforddiant a chymorth.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Mae menywod a chydweithwyr o leiafrifoedd ethnig wedi'u tangynrychioli yn y byd academaidd a byddem yn annog ceisiadau gan y grwpiau hyn yn benodol. Penodir ar sail teilyngdod bob tro.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad swydd Lawrlwytho Llynfryn Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr