Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00658
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£33,882 i £37,999 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
5 Ion 2025
Dyddiad Cyfweliad
21 Ion 2025
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae'r BioHYB Cynhyrchion Naturiol yn brosiect cydweithredol rhwng diwydiant a'r byd academaidd sydd â'r nod o gyflymu datblygiad ac arloesedd cynhyrchion o organeddau byw sy'n hyfyw yn economaidd. Mae'n defnyddio galluoedd ymchwil presennol a modelau busnes arloesol i hwyluso'r daith o ddarganfod i fasnacheiddio. Mae hyn yn cynnwys canolbwyntio ar ddatblygu cymhwysiad biodechnolegol algaidd a darganfod cynhyrchion naturiol. Y nod yw ymchwilio i gynhyrchion naturiol, datblygu prosesau arloesol, goresgyn heriau rheoleiddiol a hwyluso hyfywedd masnachol cynhyrchion newydd, gan ysgogi arloesi o ran technoleg werdd a chefnogi cynaliadwyedd byd-eang. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ym maes genomeg, metabolomeg, a biowybodeg i ddarganfod a nodi cyfansoddion bioweithredol o ffyngau ac algâu. Byddant yn cynnal ymchwil i drin, echdynnu, a dadansoddi cynhyrchion naturiol. Mae'r rôl hefyd yn cynnwys cymhwyso dulliau in silico e.e. i astudio rhyngweithiadau rhwng proteinau rhwymo arogl pryfed a strwythurau cemegol i ddatblygu llithwyr ac ymlidwyr pryfed. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol arbenigedd mewn cemeg a biowybodeg cynhyrchion naturiol, gyda phrofiad ymarferol o feithrin microbau, ffyngau a/neu algâu yn ddelfrydol, ond nid yn hanfodol, ac echdynnu cemegol a metabolomeg.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho FSE-Candidate-Brochure-(CY).pdf Lawrlwytho Disgifiad swydd.docx Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr