- Rhif y Swydd
- SU00663
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £33,882 i £37,999 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Academi Hywel Teifi
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 12 Ion 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 27 Ion 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
- Sarah Gray s.a.gray@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
This is an advert for a Welsh Translator, where a high level of proficiency in the Welsh language is a core requirement
Dyma wahoddiad agored am geisiadau gan unigolion brwdfrydig, cymwys sydd am gyfle i weithio fel Cyfieithydd yn Uned Uned Cyfieithu a Chydymffurfiaeth Iaith, Academi Hywel Teifi. Mae’r gallu i weithio yn Gymraeg yn allweddol i’r swydd hon.
Prif nod y Cyfieithydd fydd cynorthwyo wrth ddarparu Gwasanaeth Cyfieithu Cymraeg o ansawdd uchel. Bydd deiliad y swydd yn darparu gwasanaethau i gymuned gyfan y Brifysgol gan weithio fel rhan o dîm i sicrhau bod gwasanaeth cyfieithu ysgrifenedig a gwasanaeth cyfieithu ar y pryd safonol ar gael i’r Brifysgol.
Mae’r gwaith yn amrywiol iawn o ran maes pwnc a thema, a bydd yn adlewyrchu ystod eang o ddisgyblaethau a meysydd ymchwil y Brifysgol. Bydd deiliad y swydd hefyd yn cael pob cyfle i ddatblygu’n broffesiynol yn y swydd.
Mae Academi Hywel Teifi yn arwain ar y gwaith o wireddu strategaeth Camu Ymlaen – Strategaeth Iaith a Diwylliant Cymraeg Prifysgol Abertawe ac mae’n gartref i’r Uned Cyfieithu a Chydymffurfiaeth Iaith, Uned Dysgu Cymraeg - Ardal Bae Abertawe a’r Uned Darpariaeth Academaidd a Chreadigol.
Mae hon yn swydd cyfnod penodedig o flwyddyn i gyflenwi cyfnod mamolaeth cydweithiwr rhwng mis Mawrth 2025 a Mawrth 2026. Bydd y swydd yn cynnwys patrwm gweithio sy’n cyfuno gweithio o gartref a gweithio yn y swyddfa.
Y swydd
Ymhlith y dyletswyddau, ac mae’r manylion llawn yn yn Swydd Ddisgrifiad, mae:
- Cyfieithu deunydd ysgrifenedig o’r Gymraeg i’r Saesneg neu o’r Saesneg i’r Gymraeg gan ddarparu gwasanaeth cyfieithu o'r ansawdd uchaf a chadw o fewn terfynau amser cyflawni’r dasg.
- Gweithio’n effeithiol â thechnoleg er mwyn hwyluso’r gwaith gan ddefnyddio meddalwedd er mwyn derbyn a dychwelyd gwaith, rheoli llif gwaith, a sicrhau effeithiolrwydd trwy ddefnydd o gof cyfieithu.
- Meithrin arferion da wrth ddefnyddio offer ac adnoddau gramadegol amrywiol i gefnogi gwaith cyfieithwyr.
- Meithrin profiad o brawf-ddarllen a golygu cyfieithiadau cydweithwyr yn yr Uned Gyfieithu pan fo galw.
- Gwneud gwaith gweinyddol cyffredinol sy'n berthnasol i'r Gwasanaeth Cyfieithu, gan gynnwys cynnal a chadw cronfeydd data.
- Cefnogi'r gwaith o ddarparu adroddiadau gwybodaeth reoli mewn perthynas â thargedau a gofynion a bennir gan Lywodraeth Cymru, Comisiynydd y Gymraeg, CCAUC a chyrff eraill.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 3 - Rhugl. Bydd deiliad y swydd yn gallu cynnal sgwrs rugl yn y Gymraeg ar fater sy'n gysylltiedig â gwaith ac ysgrifennu deunydd Cymraeg gwreiddiol yn hyderus.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Y person
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus:
- Radd dda yn y Gymraeg neu gyfwerth a/neu brofiad gwaith cyfatebol.
- Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol yn Gymraeg a Saesneg.
- Sgiliau cyfieithu rhagorol o'r Saesneg i'r Gymraeg ac o'r Gymraeg i'r Saesneg a llygad am gywirdeb a chysondeb.
- Profiad blaenorol o weithio fel cyfieithydd.
- Profiad o ddefnyddio meddalwedd Microsoft gan gynnwys Word, Excel ac Outlook.
- Profiad o ddefnyddio technoleg cyfieithu (ôl-olygu cyfieithu peirianyddol ac allbwn cof cyfieithu, megis Déjà Vu) a meddalwedd i sicrhau cywirdeb, cysondeb a gwerth am arian o ran cyfieithiadau.
- Profiad o weithio'n annibynnol gan ddefnyddio eich menter eich hun, yn enwedig o ran ymgysylltu ag eraill.
- Sgiliau trefnu a rheoli amser ardderchog a'r gallu i flaenoriaethu gwaith ac i weithio'n effeithiol dan bwysau er mwyn bodloni dyddiadau cau a chanolbwyntio ar ganlyniadau.
- Dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymgymryd â'r holl ddyletswyddau.
- Y gallu i ddatrys problemau'n annibynnol a defnyddio crebwyll a chreadigrwydd i awgrymu'r ffordd orau o ddatrys problemau wrth iddynt godi.
- Y gallu i weithio mewn amgylchedd gweinyddol strwythuredig, gan gynnwys gweithio trwy gronfeydd data/systemau rheoli dogfennau neu debyg.
- Sgiliau rhyngbersonol da - y gallu i gydweithio a meithrin perthnasoedd â rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
- Dealltwriaeth o faterion sy'n ymwneud â'r Gymraeg a dwyieithrwydd
Canllaw i ymgeiswyr:
Gofynnir i ymgeiswyr ddarparu cais ar-lein wedi’i gwblhau sy’n dangos tystiolaeth o’r modd yr ydych yn ateb Meini Prawf Hanfodol y swydd. Gellir atodi dogfennau ychwanegol i gefnogi eich cais e.e. CV neu dystiolaeth ddogfennol berthnasol.
Ceir rhagor o wybodaeth am Academi Hywel Teifi ar wefan y Brifysgol.
Ar gyfer ceisiadau am swydd cyfnod penodol gan staff Prifysgol Abertawe sydd eisoes a chanddynt rôl o fewn y Brifysgol, bydd angen sicrhau cydsyniad eu rheolwr llinell ynghyd â ffurflen gais am Secondiad wedi’i llofnodi cyn ymgeisio am y swydd hon.
I gyrchu’r ffurflen gais am secondiad a manylion Polisi Secondiadau y Brifysgol, ewch i Polisi Secondiad
Dylid uwchlwytho’r ffurflen gais am secondiad wedi’i llofnodi yngyd â’ch CV i’r system recriwtio. Ni chaiff y cais ei brosesu heb y cais a’r ffurflen caniatad. Caiff eich cais ar gyfer y swydd hon ei adolygu yn unol â phrosesau recriwtio Prifysgol Abertawe.