Apply Now
Job Number
SU00663
Contract Type
Fixed Term
Salary
£33,882 to £37,999 per annum
Faculty/Directorate
Academi Hywel Teifi
Location
Singleton Campus, Swansea
Closing Date
12 Jan 2025
Interview Date
27 Jan 2025
Informal Enquiries
Sarah Gray s.a.gray@swansea.ac.uk

About The University

Swansea University is a research-led university that has been making a difference since 1920. The University community thrives on exploration and discovery and offers the right balance of excellent teaching and research, matched by an enviable quality of life.

Our stunning waterfront campuses and multicultural community make us a desirable workplace for colleagues from around the world. Our reward and benefits, and ways of working enable those who join us to have enriching careers, matched by an excellent work-life balance.

About The Role

This is an advert for a Welsh Translator, where a high level of proficiency in the Welsh language is a core requirement

Dyma wahoddiad agored am geisiadau gan unigolion brwdfrydig, cymwys sydd am gyfle i weithio fel Cyfieithydd yn Uned Uned Cyfieithu a Chydymffurfiaeth Iaith, Academi Hywel Teifi. Mae’r gallu i weithio yn Gymraeg yn allweddol i’r swydd hon.

Prif nod y Cyfieithydd fydd cynorthwyo wrth ddarparu Gwasanaeth Cyfieithu Cymraeg o ansawdd uchel. Bydd deiliad y swydd yn darparu gwasanaethau i gymuned gyfan y Brifysgol gan weithio fel rhan o dîm i sicrhau bod gwasanaeth cyfieithu ysgrifenedig a gwasanaeth cyfieithu ar y pryd safonol ar gael i’r Brifysgol.

Mae’r gwaith yn amrywiol iawn o ran maes pwnc a thema, a bydd yn adlewyrchu ystod eang o ddisgyblaethau a meysydd ymchwil y Brifysgol. Bydd deiliad y swydd hefyd yn cael pob cyfle i ddatblygu’n broffesiynol yn y swydd. 

Mae Academi Hywel Teifi yn arwain ar y gwaith o wireddu strategaeth Camu Ymlaen – Strategaeth Iaith a Diwylliant Cymraeg Prifysgol Abertawe ac mae’n gartref i’r Uned Cyfieithu a Chydymffurfiaeth Iaith, Uned Dysgu Cymraeg - Ardal Bae Abertawe a’r Uned Darpariaeth Academaidd a Chreadigol.

Mae hon yn swydd cyfnod penodedig o flwyddyn i gyflenwi cyfnod mamolaeth cydweithiwr rhwng mis Mawrth 2025 a Mawrth 2026. Bydd y swydd yn cynnwys patrwm gweithio sy’n cyfuno gweithio o gartref a gweithio yn y swyddfa.

Y swydd

Ymhlith y dyletswyddau, ac mae’r manylion llawn yn yn Swydd Ddisgrifiad, mae:

  • Cyfieithu deunydd ysgrifenedig o’r Gymraeg i’r Saesneg neu o’r Saesneg i’r Gymraeg gan ddarparu gwasanaeth cyfieithu o'r ansawdd uchaf a chadw o fewn terfynau amser cyflawni’r dasg.
  • Gweithio’n effeithiol â thechnoleg er mwyn hwyluso’r gwaith gan ddefnyddio meddalwedd er mwyn derbyn a dychwelyd gwaith, rheoli llif gwaith, a sicrhau effeithiolrwydd trwy ddefnydd o gof cyfieithu.
  • Meithrin arferion da wrth ddefnyddio offer ac adnoddau gramadegol amrywiol i gefnogi gwaith cyfieithwyr.
  • Meithrin profiad o brawf-ddarllen a golygu cyfieithiadau cydweithwyr yn yr Uned Gyfieithu pan fo galw.
  • Gwneud gwaith gweinyddol cyffredinol sy'n berthnasol i'r Gwasanaeth Cyfieithu, gan gynnwys cynnal a chadw cronfeydd data.
  • Cefnogi'r gwaith o ddarparu adroddiadau gwybodaeth reoli mewn perthynas â thargedau a gofynion a bennir gan Lywodraeth Cymru, Comisiynydd y Gymraeg, CCAUC a chyrff eraill.

Equality, Diversity & Inclusion

The University is committed to supporting and promoting equality and diversity in all its practices and activities. We aim to establish an inclusive environment and welcome diverse applications from the following protected characteristics: age, disability, gender reassignment, marriage and civil partnership, pregnancy and maternity, race (including colour, nationality, ethnic and national origin), religion or belief, sex, sexual orientation.

As an inclusive and welcoming workplace, we value people for their skills regardless of their background. Applications are welcome in Welsh and will not be treated less favourably than those submitted in English.

Welsh Language Skills

The Welsh language level required for this role is Level 3 - Fluently. The role holder will be able to conduct a fluent conversation in Welsh on a work-related matter and write original Welsh material with confidence.

The University is a proud bilingual institution, our Welsh Language Strategy outlines our aspiration to promote the language and enable our staff to engage with the language as an additional workplace skill and as a gateway to new cultural and social opportunities. Applications are welcome in Welsh and will not be treated less favourably than those submitted in English. Welsh speakers have the right to an interview in Welsh. Applicants for a role where Welsh skills are essential are expected to present their application in Welsh and will be interviewed in Welsh, if shortlisted.

Additional Information

Y person

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus:

  • Radd dda yn y Gymraeg neu gyfwerth a/neu brofiad gwaith cyfatebol.
  • Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol yn Gymraeg a Saesneg.
  • Sgiliau cyfieithu rhagorol o'r Saesneg i'r Gymraeg ac o'r Gymraeg i'r Saesneg a llygad am gywirdeb a chysondeb.
  • Profiad blaenorol o weithio fel cyfieithydd.
  • Profiad o ddefnyddio meddalwedd Microsoft gan gynnwys Word, Excel ac Outlook.
  • Profiad o ddefnyddio technoleg cyfieithu (ôl-olygu cyfieithu peirianyddol ac allbwn cof cyfieithu, megis Déjà Vu) a meddalwedd i sicrhau cywirdeb, cysondeb a gwerth am arian o ran cyfieithiadau.
  • Profiad o weithio'n annibynnol gan ddefnyddio eich menter eich hun, yn enwedig o ran ymgysylltu ag eraill.
  • Sgiliau trefnu a rheoli amser ardderchog a'r gallu i flaenoriaethu gwaith ac i weithio'n effeithiol dan bwysau er mwyn bodloni dyddiadau cau a chanolbwyntio ar ganlyniadau.
  • Dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymgymryd â'r holl ddyletswyddau.
  • Y gallu i ddatrys problemau'n annibynnol a defnyddio crebwyll a chreadigrwydd i awgrymu'r ffordd orau o ddatrys problemau wrth iddynt godi.
  • Y gallu i weithio mewn amgylchedd gweinyddol strwythuredig, gan gynnwys gweithio trwy gronfeydd data/systemau rheoli dogfennau neu debyg.
  • Sgiliau rhyngbersonol da - y gallu i gydweithio a meithrin perthnasoedd â rhanddeiliaid mewnol ac allanol.
  • Dealltwriaeth o faterion sy'n ymwneud â'r Gymraeg a dwyieithrwydd

 

Canllaw i ymgeiswyr:
Gofynnir i ymgeiswyr ddarparu cais ar-lein wedi’i gwblhau sy’n dangos tystiolaeth o’r modd yr ydych yn ateb Meini Prawf Hanfodol y swydd. Gellir atodi dogfennau ychwanegol i gefnogi eich cais e.e. CV neu dystiolaeth ddogfennol berthnasol.

Ceir rhagor o wybodaeth am Academi Hywel Teifi ar wefan y Brifysgol.

Ar gyfer ceisiadau am swydd cyfnod penodol gan staff Prifysgol Abertawe sydd eisoes a chanddynt rôl o fewn y Brifysgol, bydd angen sicrhau cydsyniad eu rheolwr llinell ynghyd â ffurflen gais am Secondiad wedi’i llofnodi cyn ymgeisio am y swydd hon.

I gyrchu’r ffurflen gais am secondiad a manylion Polisi Secondiadau y Brifysgol, ewch i  Polisi Secondiad

Dylid uwchlwytho’r ffurflen gais am secondiad wedi’i llofnodi  yngyd â’ch CV i’r system recriwtio. Ni chaiff y cais ei brosesu heb y cais a’r ffurflen caniatad. Caiff eich cais ar gyfer y swydd hon ei adolygu yn unol â phrosesau recriwtio Prifysgol Abertawe.

 

Download Disgrifiad Swydd Download Llynfryn Print this page Back to list